Y Gymraeg ar Daith
Mae Ysgol y Gymraeg yn rhan o gynllun cenedlaethol uchelgeisiol i godi ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion ysgol o astudio Cymraeg ar gyfer lefel 鈥楢鈥 ac yn y brifysgol. Yn ystod mis Tachwedd bydd bron i 2000 o ddisgyblion mewn 40 ysgol uwchradd yn elwa ar y cynllun drwy gyfres o ymweliadau.
Noddir y cynllun gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bu adrannau Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru鈥檔 cydweithio i baratoi rhaglen gyfoethog o weithdai i ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.
Mae鈥檙 project yn ymateb i鈥檙 angen i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 her sy鈥檔 wynebu pynciau yn y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau, gan gynnwys y Gymraeg fel pwnc lefel 鈥楢鈥 a phwnc academaidd.
Lansiwyd y cynllun yn swyddogol yn Ysgol Bro Edern, Dwyrain Caerdydd fore Mawrth, 24 Hydref ym mhresenoldeb Alun Davies, Gweinidog Dysgu Gydol Oes a鈥檙 Iaith Gymraeg. Mae disgyblion yn yr ysgol ym Mlwyddyn 12 am y tro cyntaf eleni a phump ohonynt yn astudio Cymraeg Safon Uwch.
Datblygwyd y cynllun mewn ymgynghoriad 芒 Swyddog Pwnc y Gymraeg yn CBAC ac athrawon Cymraeg ledled Cymru.
Bydd dwy elfen i鈥檙 gweithdy 鈥 sesiwn gyda鈥檙 beirdd Rhys Iorwerth neu Aneirin Karadog yn seiliedig ar eu cerddi sydd ar y fanyleb TGAU Llenyddiaeth, a hefyd sesiwn yng ngofal adrannau Cymraeg y prifysgolion, sy鈥檔 annog disgyblion i ystyried y manteision o barhau i astudio鈥檙 Gymraeg.
Bwriad y sesiynau rhyngweithiol yw dod 芒鈥檙 maes llafur yn fyw a hefyd danio diddordeb a brwdfrydedd y disgyblion yn y Gymraeg fel pwnc y tu hwnt i鈥檙 cymhwyster TGAU.
Bydd pwyslais yn sesiwn y prifysgolion ar ddangos perthnasedd y Gymraeg i fywyd bob dydd yn ogystal 芒 dangos sut mae astudio鈥檙 Gymraeg yn gwella sgiliau a chynnig cyfleoedd gyrfa unigryw.
Bydd hefyd sylw i natur gyffrous, amrywiol, ac amlddisgyblaethol gwahanol raddau Cymraeg.
Meddai鈥檙 Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊:
鈥淵n sgil targedau uchelgeisiol y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, ynghyd 芒鈥檙 galw cynyddol am raddedigion sy鈥檔 gallu gweithio鈥檔 hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg, mae鈥檔 amserol bod adrannau Cymraeg y prifysgolion yn cydweithio i hybu鈥檙 Gymraeg fel pwnc. Mae Ysgol y Gymraeg Prifysgol 黑料不打烊 yn falch iawn o fod yn rhan o gynllun mor uchelgeisiol a chyffrous 芒 hwn sydd hefyd yn ffrwyth cydweithio gyda鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol a CBAC.鈥

O鈥檙 chwith i鈥檙 dde: Dr Dylan Foster Evans (Prifysgol Caerdydd), Yr Athro Tudur Hallam (Prifysgol Abertawe), Alun Davies (Gweinidog Dysgu Gydol Oes a鈥檙 Iaith Gymraeg), Dr Cathryn Charnell White (Prifysgol Aberystwyth), Yr Athro Gerwyn Wiliams (Prifysgol 黑料不打烊), Y Prifardd Rhys Iorwerth, Llinos Lloyd (CBAC), Rhian Jones (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), Dr Gwennan Schiavone (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), Yr Athro Mererid Hopwood (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), Eurgain Evans (Ysgol Bro Edern), a phedwar o ddisgyblion Ysgol Bro Edern.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2017