鈥榊 Gymuned, Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yng Nghymru鈥 Digwyddiad Rhwydweithio WISERD
Daeth criw da ynghyd i鈥檙 digwyddiad hwn ar 15 Mehefin 2011, yn cynnwys gweithredwyr lleol, sefydliadau anllywodraethol, gwneuthurwyr polisi ac academyddion o bob cwr o Gymru a鈥檙 tu hwnt, a chanddynt ddiddordeb yng nghynaliadwyedd cymunedau lleol ac ymgyrchoedd a chynlluniau amgylcheddol. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i bobl rwydweithio a chyfnewid gwybodaeth a hefyd 鈥榣ansiwyd鈥 rhwydwaith thematig WISERD ar yr amgylchedd, twristiaeth a hamdden. Cafwyd rhaglen lawn o anerchiadau, rhai鈥檔 trafod projectau, ymgyrchoedd, cynlluniau a busnesau artistig ac amgylcheddol dan arweiniad cymunedau, rhai eraill yn ymdrin ar raddfa fwy 芒 rhwydweithiau arbenigedd cenedlaethol ar draws Cymru, a rhai eraill eto鈥檔 trafod y sefyllfa鈥檔 fyd-eang trwy ddisgrifiadau o鈥檙 ymchwil diweddaraf ar newid yn yr hinsawdd sy鈥檔 cael ei wneud yng Nghymru, a phrojectau sy鈥檔 cysylltu cymunedau yng Nghymru ac yn Affrica. Daeth y diwrnod i ben gydag anerchiad bywiog gan Dr John Barry o Brifysgol Queens Belffast ar destun 'Vulnerability and Resilience in Contemporary Green Thought'.
Gellir gweld yr holl gyflwyniadau ar y we .
Dyma un o sawl sylw cadarnhaol ar y diwrnod: 鈥淩oedd yn rhyfeddol bod amrywiaeth mor eang o brojectau a gweithgareddau yn cael eu trafod mewn cyn lleied o amser. Roedd yn ddefnyddiol ac yn ysgogol yn ogystal 芒 bod yn ddifyr ac yn ddiddorol鈥.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2011