Y Gyntaf yng Ngwynedd
Bydd Canolfan Heneiddio鈥檔 Dda cyntaf Gwynedd yn cael ei hagor yn swyddogol dydd Mercher, 12 Hydref, gyda Diwrnod Agored arbennig sy鈥檔 cynnig sesiynau blasu a stondinau gwybodaeth.
Mae鈥檙 Ganolfan wedi ei lleoli yn Nefyn, Pen Ll欧n, ac mae鈥檔 brosiect a weinyddir ar y cyd gan Age Cymru Gwynedd a M么n a Phrifysgol 黑料不打烊. Mae鈥檙 Ganolfan ar agor i unrhyw un sydd yn 50 oed a drosodd, ac mae鈥檔 cynnig amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys Tai Chi, sesiynau celf a chrefft a phrosiectau amgylcheddol.
Bydd y Ganolfan ar agor deirgwaith yr wythnos 鈥 ar ddydd Llun, Mercher a Gwener 鈥 o 9.30 y bore hyd at 3.30 y prynhawn.
鈥淩ydym yn falch iawn ein bod yn agor y Ganolfan Heneiddio鈥檔 Dda amhrisiadwy hon a leolir oddi fewn y Ganolfan Gymdeithasol newydd sbon yn Nefyn,鈥 meddai Prif Weithredwr Age Cymru Gwynedd a M么n, John Clifford Jones. 鈥淩ydym yn gobeithio y bydd yn datblygu yn fan cyfarfod bywiog i drigolion yr ardal sydd dros 50 oed. Mi fyddwn ni鈥檔 cynnig amrywiaeth o gyrsiau a gweithgareddau yn y Ganolfan, bydd rhywbeth yma i blesio pawb.
鈥淗offwn hefyd ddiolch i鈥檔 partneriaid yn y prosiect, Prifysgol 黑料不打烊, am eu cefnogaeth. Mae鈥檔 gyffrous ein bod yn gallu gweithio gyda鈥檔 gilydd i gyfoethogi bywydau'r rhai hynny sydd dros 50 oed ac yn byw yng Ngwynedd. Bydd yr ymchwil a wneir gan y Brifysgol yn y Ganolfan hefyd yn darparu gwybodaeth bwysig a all yn y dyfodol gynnig fwy o gymorth i aelodau h欧n ein cymunedau.鈥
鈥淩wy鈥檔 gyffrous iawn am y bartneriaeth arloesol hon gyda Age Cymru Gwynedd a M么n,鈥 meddai鈥檙 Athro Linda Care, o Adran Seicoleg Prifysgol 黑料不打烊. 鈥淕an weithio gyda鈥檔 gilydd er lles pobl h欧n a鈥檜 cynorthwyo i gynnal ansawdd da eu bywyd, byddem yn gallu casglu ynghyd tystiolaeth bendant am y manteision y bydd y Ganolfan Heneiddio鈥檔 Dda yn dod i鈥檙 rhai sydd dros 50 oed yng Ngwynedd, a ddylai gefnogi mentrau pellach yn y dyfodol.鈥
Bydd pum aelod o staff yn cael eu cyflogi gan y Ganolfan, ond oherwydd yr ystod eang o weithgareddau sy鈥檔 cael ei gynnig ar draws y ddwy sir, mae Age Cymru Gwynedd a M么n bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr.
Meddai鈥檙 Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Terry Jones, 鈥淢i faswn ni wrth ein boddau yn clywed gan unrhyw un sydd ag amser rhydd i sbario. Heb gymorth ein gwirfoddolwyr, ni fyddem yn gallu cynnig yr holl wasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Rydym yn gwerthfawrogi pob awr o鈥檆h amser. Os hoffech chi ein helpu, cysylltwch, os gwelwch yn dda, 芒鈥檔 canolfan yng Nghaernarfon, ffon: 01286b 671111 neu trwy gyfrwng yr e-bost, elaine@agcm.co.uk <mailto:elaine@agcm.co.uk>. Mae gwaith gwirfoddol yn cynnig llawer o foddhad, ac mae鈥檔 hwyl! Cewch y cyfle i gyfarfod 芒 bob math o bobl ddiddorol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2011