Y "Scallop Association鈥 yn ariannu project cydweithredol i ddiffinio pysgodfa cregyn bylchog y Sianel
Mae project ymchwil PhD wedi ei ariannu gan ddiwydiant wedi dechrau ym Mhrifysgol 黑料不打烊 i wella dealltwriaeth pobl am bysgodfa cregyn bylchog yn y Sianel.
Cergyn (Aequipecten opercularis) ar Wely'r m么r
Dyma'r project cydweithredol cyntaf rhwng cwmn茂au prosesu a physgotwyr a gwyddonwyr ym Mhrifysgol 黑料不打烊 a CEFAS, ac mae dan arweiniad aelodau'r "Scallop Association", sydd wedi gweld bod bylchau sylweddol yn y data sydd ei angen er mwyn i'r bysgodfa allu symud tuag at statws ardystiedig.
Dywedodd Mark Greet, cadeirydd y 鈥淪callop Association鈥 a chyfarwyddwr Falfish Ltd. 鈥淩ydym yn gwybod bod ein pysgodfeydd cregyn bylchog yn darparu cynnyrch o ansawdd uchel i farchnadoedd yn y DU a thramor, ond dim ond trwy bysgota cynaliadwy y gallwn sicrhau proffidioldeb tymor hir i鈥檙 diwydiant. Mae鈥檔 hanfodol bod y project cydweithredol hwn yn casglu setiau data ynghyd fydd yn gymorth i ni ddiffinio pysgodfa cregyn bylchog y Sianel.
Dywedodd yr Athro Mike Kaiser o Brifysgol 黑料不打烊, sy鈥檔 cyd-oruchwylio鈥檙 PhD gyda Dr Ewen Bell o CEFAS, 鈥淢ae pysgodfeydd cynaliadwy o amgylch y byd wedi eu seilio ar wybodaeth wyddonol o ansawdd uchel am eu bioleg a鈥檜 statws. Mae鈥檙 ffaith bod y diwydiant bwyd m么r yn ariannu鈥檙 ymchwil hwn yn dangos eu bod yn cydnabod y cyfraniad pwysig sydd gan wyddoniaeth i鈥檞 wneud at y gwaith o ddiogelu dyfodol adnodd bwyd gwerthfawr a physgodfa broffidiol.鈥
Defnyddiwyd y cyllid a ddarparwyd gan y cwmn茂au prosesu a鈥檙 pysgotwyr, ynghyd 芒 bwrsariaeth PhD a roddwyd gan y
Cregyn (Pecten maximus) ar Wely'r m么r鈥淔ishmongers鈥 Company鈥 i recriwtio Claire Szostek i wneud y gwaith ymchwil yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion, Prifysgol 黑料不打烊. Roedd Ms Szostek yn gweithio i鈥檙 鈥淐o-operative Group鈥 cyn astudio am MSc Gwarchod yr Amgylchedd Morol ym Mangor.
Dywedodd yr Athro Kaiser, "Bydd llwyddiant y project blaengar hwn yn dibynnu ar gyfraniad gweithredol gan y diwydiant cregyn bylchog yn y Sianel. Bydd rhaid i ni ddibynnu ar y diwydiant i gyflawni llawer o鈥檙 tasgau y mae gwyddonwyr yn ymgymryd 芒 hwy fel rheol.鈥
Mae cam cyntaf y project eisoes yn mynd rhagddo ac mae鈥檔 datblygu ar ymchwil a wnaed yn Ynys Manaw ar strwythur poblogaeth cregyn bylchog yn y DU. Ychwanegir safleoedd samplu ychwanegol yn y Sianel ac ardal y dyfroedd gorllewinol at y data sy鈥檔 bodoli eisoes er mwyn diffinio maint pysgodfa cregyn bylchog y Sianel.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Claire Szostek yn gweinyddu holiadur er mwyn darganfod maint gwelyau鈥檙 cregyn bylchog, yn awr ac yn y gorffennol, ac er mwyn holi鈥檙 pysgotwyr am newidiadau ym mhatrymau silio, dosbarthu a recriwtio鈥檙 cregyn bylchog dros amser.
Peth o'r daliad a gasglwyd ar gyfer yr astudiaeth
Dywedodd yr Athro Kaiser, 鈥渕ae鈥檙 hyn rydym wedi ei ddysgu trwy wrando ar y pysgotwyr wedi bod o gymorth amhrisiadwy i ni ddeall y bysgodfa鈥檔 well a sut i ddehongli'r hyn rydym wedi ei weld trwy arsylwi. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar fodloni anghenion data proses achredu'r Cyngor Stiwardiaeth Forol ar gyfer y bysgodfa hon. Mae鈥檔 llwybr llawn her, ond amlwg, i鈥檙 wyddoniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2011