Ydych chi wedi ystyried astudio鈥檔 么l-radd ym Mangor?
Ni ellwch gael gormod o gymwysterau ar gyfer cystadlu yn y farchnad swyddi ar hyn o bryd. Gall cymhwyster 么l-radd fod o gymorth i wneud i chi sefyll allan ymysg ymgeiswyr am swyddi, agor drysau i gyfleoedd newydd, neu鈥檆h helpu i symud ymlaen o鈥檆h swydd bresennol neu newid cyfeiriad yn eich gyrfa.
Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn cynnal ddydd Gwener 18 Chwefror rhwng 12.00 - 2.00.
Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr presennol, ac unrhyw raddedigion sy鈥檔 gweithio neu鈥檔 byw鈥檔 lleol ac sy鈥檔 awyddus i astudio ym Mangor, i ymweld 芒鈥檙 Brifysgol a chael gwybod o lygad y ffynnon pa ddewisiadau ar gyfer graddau uwch hyfforddedig ac ymchwil sydd ar gael yn y Brifysgol.
Bydd staff y Swyddfa Derbyniadau 脭l-radd a Chynghorwyr Gyrfaoedd a Chyfleoedd hefyd ar gael i roi cyngor ac arwain darpar ymgeiswyr a myfyrwyr drwy鈥檙 broses o wneud cais.
Cynhelir y Ffair yn Neuadd Prichard Jones y Brifysgol. Bydd un o鈥檙 rhai a fydd yn cofrestru a dod i鈥檙 achlysur yn ennill y wobr ragorol o Apple iPad, gan y bydd enwau pawb fydd yn cofrestru yn mynd i het a thynnir un enw buddugol. Gellwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad wrth fynd i wefan y Brifysgol:
鈥淢ae croeso i unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn astudio ar lefel 么l-radd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ddod i鈥檙 Ffair, a dysgu mwy am y nifer helaeth o wahanol raglenni 么l-radd sydd ar gael,鈥 meddai Michael Rogerson, Swyddog Marchnata 脭l-radd.
Yn ogystal, bydd rhai ysgolion megis Gwyddorau Eigion, Seicoleg ac Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn cynnal teithiau o amgylch eu hysgolion, a sgyrsiau ar eu gwahanol feysydd, ar gyfer rhai sydd yn awyddus i gael golwg fwy manwl ar eu cyrsiau a鈥檜 hadnoddau.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2011