Ymchwil newydd yn dangos fod y sector addysg uwch yn creu 拢3.6bn y flwyddyn yn economi Cymru
Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw, dydd Mawrth 11 Mehefin, gan arbenigwyr addysg uwch blaenllaw wedi canfod fod gan brifysgolion Cymru effaith o bron i 拢2.6bn ar economi鈥檙 genedl, a bod y ffigwr hwn yn cyrraedd 拢3.6bn unwaith y cynhwysir gwariant oddi ar y campws gan fyfyrwyr.
Mae鈥檙 adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Addysg Uwch Cymru ac a gynhaliwyd gan Viewforth Consulting yn dangos fod y sector addysg uwch yn un o ddiwydiannau mwyaf gwerthfawr Cymru trwy greu miloedd o swyddi, cynhyrchu tua 3% o Gynnyrch Domestig Gros y genedl ac ennill mwy na 拢400m o incwm allforio mawr ei angen trwy refeniw tramor a thrwy i fyfyrwyr tramor ddod i astudio yng Nghymru.
Daw鈥檙 astudiaeth a gyhoeddwyd yn ystod wythnos Prifysgolion Cymru - Tanio Tyfiant, ymgyrch sy鈥檔 tanlinellu pwysigrwydd y sector i economi Cymru, i鈥檙 casgliad fod gwariant oddi ar y campws gan fyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru yn cyfrannu mwy nac 拢1bn i鈥檙 economi bob blwyddyn, a bod bron i 3% o weithlu Cymru yn gweithio mewn swyddi a gr毛wyd gan ei phrifysgolion. Er bod y sector yn cyflogi tua 16,241 o aelodau staff llawn-amser ei hunan, ar 么l cynnwys 鈥渟g卯l-effaith鈥 swyddi a gr毛wyd mewn diwydiannau eraill sy鈥檔 gysylltiedig 芒 phrifysgolion yng Nghymru, credir fod cyfanswm y swyddi a gr毛wyd ychydig yn brin o 39,000. Gan fod y swyddi ar draws sbectrwm eang o alwedigaethau, gan gynnwys nifer o swyddi crefftus a lled-grefftus, mae鈥檙 ffigyrau hyn yn dangos sut mae dyfodol y sector wedi鈥檌 gysylltu鈥檔 agos iawn 芒 bywiogrwydd economaidd Cymru i鈥檙 dyfodol.
Meddai cyd-awdur yr ymchwil,, Ursula Kelly o Viewforth Consulting: 鈥淢ae canfyddiadau鈥檙 adroddiad yn amlygu r么l allweddol Prifysgolion Cymru yn tanio economi Cymru. Rydym wedi defnyddio鈥檙 fersiwn ddiweddaraf o system modelu effaith economaidd Universities UK i sicrhau bod y ffigyrau mor fanwl-gywir a chadarn ag y gallant fod, ac mae鈥檙 canlyniadau鈥檔 dangos sut mae鈥檙 sector addysg uwch yn ffactor economaidd o bwys a鈥檌 fod yn ddiwydiant ynddo鈥檌 hun trwy gynhyrchu allbwn economaidd, swyddi, Cynnyrch Domestig Gros a chefnogi cymunedau ar hyd lled y wlad.鈥
Dywedodd yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊 a Chadeirydd Addysg Uwch Cymru: 鈥淓r y bu鈥檔 amlwg erioed fod ein prifysgolion o gryn bwys i Gymru trwy gynnal a chefnogi datblygiad economaidd trwy addysg ac ymchwil, mae鈥檙 ffigyrau hyn yn dangos gwir bwysigrwydd cyfraniad prifysgolion i鈥檞 cymunedau lleol ac economi ehangach Cymru, trwy gynnal miloedd o swyddi 鈥榗anlyniadol鈥 y tu hwnt i gampysau.
鈥淢ae鈥檙 adroddiad yn dangos, am bob 拢1m o refeniw mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, fod 拢1.03m ychwanegol yn cael ei gynhyrchu yn economi Cymru. Os ychwanegwch y canfyddiadau hyn at y canlyniadau cadarnhaol i Gymru yn arolwg diweddar Addysg Uwch 鈥 Rhyngweithiad Busnes a鈥檙 Gymuned, a ddangosodd fod prifysgolion Cymru鈥檔 gwneud cyfraniad ymhell y tu hwnt i鈥檞 maint i鈥檙 economi, fe gewch ddarlun o sector sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i danio tyfiant economaidd er mwyn ceisio creu Cymru fwy ffyniannus.鈥
Wrth gyfeirio at y cyhoeddiad heddiw dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews: 鈥淢ae ein Prifysgolion yn ganolog i danio鈥檙 economi yng Nghymru, cefnogi diwydiant, ymchwil ac arlwyed a chreu swyddi. Mae鈥檙 ffigyrau arwyddocaol a rhyddhawyd heddiw yn tanlinellu pwysigrwydd y sector addysg uwch i Gymru fel cyfanwaith ac rydym ni, fel Llywodraeth, yn gwneud oll y gallwn i gefnogi a chryfhau鈥檙 sector a sicrhau ei lwyddiant a chynaliadwyedd hir dymor.
Paratowyd yr astudiaeth trwy ddefnyddio鈥檙 fersiwn ddiweddaraf o system modelu effaith economaidd Universities UK, lle鈥檙 archwiliwyd nodweddion economaidd allweddol y sector addysg uwch yng Nghymru yn ystod blwyddyn ariannol 2011-12, ynghyd 芒鈥檙 agweddau hynny o鈥檌 gyfraniad i鈥檙 economi y gellir eu mesur yn hwylus, i greu adroddiad sy鈥檔 cynnig yr archwiliad mwyaf manwl-gywir a chyfredol o鈥檙 cyfraniad mesuradwy a wna prifysgolion i economi Cymru.
O dan adain Addysg Uwch Cymru, daeth pob sefydliad at ei gilydd yn rhan o wythnos o weithgarwch i amlygu pwysigrwydd y sector i ddatblygiad economaidd y genedl, yn ogystal 芒 thynnu sylw鈥檙 cyhoedd at y ffordd y mae prifysgolion yn elwa Cymru yn gyffredinol - yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Mae mwy o wybodaeth am Prifysgolion Cymru 鈥 Tanio Tyfiant, a鈥檙 sector yn gyffredinol, ar gael trwy fynd i
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2013