Ymchwil synhwyro ffrwydron ar waith ym Mangor
Mae Gwyddonwyr yn Ysgol Gemeg Prifysgol 黑料不打烊 yn gweithio ar dechnoleg synhwyro arloesol y gobeithir ei dreialu mewn meysydd awyr cyn bo hir. Mae gr诺p yn yr Ysgol Gemeg yn gweithio fel rhan o gonsortiwm Ewropeaidd o鈥檙 enw Nanosecure. Mae鈥檙 gr诺p yn cynnwys 26 o bartneriaid academaidd a diwydiannol oll yn gweithio tuag at system integreiddiedig a fydd yn synhwyro ffrwydron, cyffuruiau, cemegau ac elfennau biolegol yn yr awyr. Bydd y system hefyd yn gallu diheintio awyr o bio-agents cemegol a biolegol os caiff y rhain eu darganfod. Bydd hyn yn digwydd trwy ei integreiddio gydag unedau awyru adeilad. Un o'r partneriaid yn y consortiwm yw Maes Awyr Schiphol, ble y gobeithir y gellid treialu鈥檙 unedau.
Dr Chris Gwenin
Ysgol Gemeg 黑料不打烊 yw鈥檙 sefydliad ymchwil arweiniol yn natblygiad y sensor ffrwydron a fydd yn cael ei ddefnyddio yn yr uned ddarganfod. Mae gwyddonwyr ym Mangor hefyd yn creu鈥檙 arwynebau catalytig a gaiff eu defnyddio i ddiheintio'r awyr. Y syniad yw integreiddio鈥檙 system gyda mesurau diogelwch presennol mewn meysydd awyr.
鈥淢ae hwn yn faes ymchwil cynhyrfus iawn ar hyn o bryd鈥 meddai Chris Gwenin, o鈥檙 Ysgol Gemeg. 鈥淢ae鈥檙 digwyddiadau diogelwch rhyngwladol diweddar yn dangos bod yna gryn arloesedd yn digwydd wrth greu dyfeisiadau ffrwydrol terfysgol. Gyda鈥檙 defnydd o ffrwydron masnachol megis PETN yn cael eu darganfod fel rhan o ddyfeisiadau fel hyn, mae鈥檔 amlwg bod mawr angen technoleg synhwyro er mwyn osgoi mwy o wiriadau mewn meysydd awyr fydd felly yn cynyddu'r amseroedd aros i deithwyr.鈥
Mae gwaith Prifysgol 黑料不打烊 ar y dechnoleg yn seiliedig ar y defnydd o ensymau all gael eu denu tuag at wahanol sylweddau megis ffrwydron.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2010