Ymchwilio i faterion allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg
Cychwynnodd prosiect ymchwil newydd a fydd yn ceisio canfod paham y mae plant sy鈥檔 mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gallu bod yn amharod defnyddio鈥檙 iaith y tu allan i鈥檙 ysgol. Yr ymchwilydd fydd y Dr Si么n Aled Owen o Brifysgol 黑料不打烊.
Dengys ffigurau o Gyfrifiad 2011 fod sawl her bwysig yn wynebu鈥檙 Gymraeg os yw i barhau fel iaith fyw yn y gymuned i鈥檙 dyfodol a rhan o鈥檙 ymateb i hynny fu annog datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach. Eto, er gwaethaf y ffaith bod mwy a mwy o rieni鈥檔 dewis addysg Gymraeg, ar y lefel gynradd ac uwchradd, i鈥檞 plant, mae鈥檙 disgyblion yn aml yn parhau鈥檔 gyndyn i ddefnyddio鈥檙 iaith yn eu bywydau cymdeithasol. Bydd Dr Owen yn ymchwilio i鈥檙 rhesymau dros beidio 芒 defnyddio鈥檙 iaith a hefyd yn ystyried ffyrdd o oresgyn y bygythiad hwnnw i ddyfodol yr iaith yn yr hirdymor.
Dangosodd Cyfrifiad 2001 fod y dirywiad cyson yn y ganran o bobl a allai siarad Cymraeg wedi ei atal am y tro cyntaf ers cychwyn cofnodi siaradwyr yr iaith ym 1891, gyda鈥檙 ganran gyffredinol yn codi o 18.7% ym 1991 i 20.2%, a chofnodi bod mwy na 40% o blant rhwng tair a phymtheg oed yn gallu siarad yr iaith. Ond ddeng mlynedd yn ddiweddarach, gostyngodd y ganran gyffredinol unwaith eto i 19.1% ac ni welwyd dilyniant i鈥檙 cynnydd yn y gr诺p oedran 3-15 i鈥檙 gr诺p oedran nesaf.
鈥淢ae鈥檙 dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu鈥檔 gryf mai defnyddio Iaith sy鈥檔 sicrhau bod unigolyn yn ei chadw,鈥 meddai Dr Owen o y Brifysgol. 鈥淔odd bynnag, yn 贸l pob golwg mae鈥檙 ffigurau hyn yn cadarnhau鈥檙 canfyddiad y bydd myfyrwyr wrth adael addysg Gymraeg yn aml yn gadael yr iaith hefyd. Mae hynny鈥檔 arbennig o amlwg yn y rhannau hynny o Gymru lle nad yw鈥檙 Gymraeg yn gyfrwng cyfathrebu naturiol o fewn y gymuned yn gyffredinol, ond nid yw鈥檙 broblem yn gyfyngedig i鈥檙 ardaloedd hynny ychwaith.鈥
Aeth Dr Owen ymlaen i ddweud bod yna ysgolion yng Nghymru a oedd yn llwyddo i nofio yn erbyn y llanw a bydd yn ystyried sut y gellid addasu dulliau llwyddiannus yr ysgolion hynny ar gyfer cyd-destunau eraill .Bydd hefyd yn ymchwilio i fethodolegau a ddefnyddiwyd mewn rhannau eraill o鈥檙 byd sy鈥檔 wynebu heriau tebyg, megis Iwerddon a Gwlad y Basg, ac yn eu gwerthuso.
Bydd ymchwil Dr Owen yn cynnwys trafod 谩鈥檙 disgyblion eu hunain yn unigol ac o fewn grwpiau ffocws i ganfod y rhesymau pam maent yn dewis defnyddio鈥檙 Gymraeg neu beidio鈥檙 tu hwnt i鈥檙 dosbarth. Drwy gydol y prosiect bydd yn cydweithio鈥檔 agos ag athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes addysg yn ogystal 芒 cheisio barn a chlywed profiadau rhieni disgyblion addysg cyfrwng Cymraeg.
Ym marn Dr Owen, 鈥淣id yw鈥檙 ormodiaith dweud bod yr ymchwil hwn yn canolbwyntio ar un o鈥檙 meysydd astudio mwyaf tyngedfennol o safbwynt sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn parhau ac yn ffynnu fel iaith gymunedol fyw.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2014