Ymchwilwyr prifysgol yn gofyn am farn cleifion am feddyginiaeth
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn gofyn am farn pobl yng Nghymru sydd yn cael tabledi ar bresgripsiwn at bwysedd gwaed, fel rhan o broject ymchwil yn Ewrop.
Mae鈥檙 Athro Dyfrig Hughes a鈥檌 gydweithwyr yn cynnal arolwg electronig fel rhan o broject Ewropeaidd sydd 芒鈥檙 nod o greu argymhellion ar sail tystiolaeth i lunwyr polisi Ewropeaidd er mwyn gwneud gwell defnydd o feddyginiaeth.
Meddai: 鈥淎droddir yn eang mai dim ond tua 50% o鈥檙 meddyginiaethau a roddir ar bresgripsiwn sy鈥檔 cael eu cymryd fel yr argymhellir. Trwy ddysgu mwy am y rhesymau posib pam nad yw cleifion yn cymryd eu meddyginiaeth, byddwn yn ychwanegu at ddealltwriaeth o ymddygiad cleifion a bydd hyn yn gymorth i ddatblygu ffyrdd o wella defnydd cleifion o feddyginiaeth.鈥
鈥淐ynhelir yr arolwg mewn 17 o wledydd, ac rydym yn gobeithio y bydd cymaint o bobl 芒 phosib yn cymryd rhan yng Nghymru.鈥
Gwahoddir aelodau鈥檙 cyhoedd sydd dros 18 oed, sydd 芒 mynediad at y rhyngrwyd ac sy鈥檔 cael tabledi ar bresgripsiwn at bwysedd gwaed ar hyn o bryd i gymryd rhan yn yr arolwg electronig i rannu eu barn a鈥檜 profiadau o gymryd y tabledi hyn. Gallwch fynd i'r arolwg trwy ac mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Emily Fargher ar 01248 382709
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2011