Ymchwilydd o Fangor yn gyd-enillydd gwobr NewsHACK y BBC
T卯m buddugol Prifysgol 黑料不打烊 a BBC Cymru/ Wales yn #newsHack.Roedd Dewi Bryn Jones o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn un o enillwyr gwobr Wynebu鈥檙 Gynulleidfa yn y BBC ar y cyd gyda BBC Cymru Fyw, BBC Connected Studio, a BBC Digital yn Llundain ar 15 ac 16 Mawrth 2016. Yr her yn y digwyddiad a drefnwyd gan y BBC News Labs oedd sut i helpu gwella newyddiaduraeth mewn amgylchedd amlieithog er mwyn manteisio ar newyddion a gwybodaeth mewn ieithoedd eraill, a darllen cynnwys mewn nifer o ieithoedd gwahanol.
Yn ei sylwadau agoriadol i鈥檙 hacathon, cyfeiriodd Robin Pembroke, pennaeth Cynnyrch Newyddion a Thywydd Ar-lein y BBC at y nodwedd Vocab a ddatblygwyd gan yr Uned Technolegau Iaith fel enghraifft o鈥檙 cynnyrch arloesol roeddynt am ei greu. Yn ystod y ddau ddiwrnod yno, ehangodd Dewi Bryn Jones gyda chymorth Jack Hanigan Popp, James Owen, Robin Moore a Rhodri ap Dyfrig o鈥檙 BBC ar Vocab, sef nodwedd sy鈥檔 galluogi dysgwyr neu bobl ansicr o鈥檜 Cymraeg i hofran llygoden dros air ar wefan megis un BBC Cymru neu Golwg360, a chael cyfieithiad Saesneg o鈥檙 gair. Mewn project o鈥檙 enw 鈥榁ocab for Video鈥 datblygodd allu Vocab i gynorthwyo defnyddwyr i ddeall is-deitlau Cymraeg a/neu Saesneg. Defnyddiwyd dwy enghraifft o erthygl newyddion BBC - un o Newyddion 9 am y darganfyddiad diweddar o donnau disgyrchiant, a鈥檙 llall o fideo Saesneg gydag isdeitlau Iwcraneg. Roedd y chwaraeydd newydd yn gallu dangos nid yn unig is-deitlau mewn dwy iaith ond hefyd yn defnyddio isadeiledd Vocab i allu canfod prifeiriau er mwyn dangos cofnodion geiriadurol yn unig wrth i鈥檙 sain chwarae. Roedd gwelliannau arbrofol newydd i Vocab yn gallu rhoi sg么r drwy ddefnyddio ystadegau o gorpws Cysill Ar-lein yr Uned a logiau defnyddio Vocab ar wefan CymruFyw. Llwyddodd y demo i dangos yn yr erthygl newydd Gymraeg i ganfod, cydnabod a dangos cofnod geiriadurol 鈥榯onnau disgyrchol鈥 ar yr adeg gywir i helpu gwylwyr i ddeall 鈥榞ravitational waves鈥. Bydd hwn yn ddull awtomatig i allu dewis ymlaen llaw pa gofnodion geiriadurol fydd yn ymddangos ar y sgrin. Yn nodwedd ychwanegol, roedd y chwaraeydd yn cynorthwyo dysgwyr drwy ganiat谩u arafu鈥檙 fideo er mwyn rhoi cyfle i ddarllen yr is-deitlau yn llawn.
Dywedodd Dewi Bryn Jones 鈥淩oedd y digwyddiad yn agoriad llygad i mi gyda chymaint o syniadau da yno. Y gobaith yn awr ydi adeiladu ar y demo ac ymestyn Vocab ar gyfer fideos ac ar gyfer parau iaith eraill. Roeddwn i wrth fy modd ein bod ni wedi ennill y wobr.鈥 Ategwyd hyn gan Rhodri ap Dyfrig, Cymru Fyw: 鈥淩oedd pawb yn Cymru Fyw yn falch iawn ein bod ni wedi ennill, a bod yna sylw teilwng i鈥檙 gwaith blaengar sy鈥檔 cael ei wneud gyda thechnoleg iaith ymarferol yma yng Nghymru鈥. Llongyfarchwyd y t卯m hefyd gan Robin Moore, Pennaeth Arloesedd a Stiwdio Gydgysylltiedig BBC Cymru Ar-lein a Dysgu: 鈥淵mdrech wych, diolch i Dewi, Jack, James a Rhodri.鈥 Y gobaith yn awr yw y bydd modd adeiladu ar y gwaith hwn i gefnogi fideo a pharau iaith eraill y tu hwnt i鈥檙 Gymraeg a鈥檙 Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2016