Ymgyrchydd ffeministaidd o鈥檙 1950au i ail-ymweld 芒鈥檌 Cause c茅l猫bre
Sheila Parry (Davies ar y pryd) yn ystod ei dyddiau coleg.
A hithau bellach dros ei 80, bydd Sheila Parry (Davies gynt), ymgyrchydd cynnar dros gydraddoldeb i fyfyrwyr benywaidd a chafodd ei diarddel o'r Coleg Normal yn 1953 oherwydd ei hymgyrchu, yn dychwelyd i Fangor (ddydd Gwener, 5 Medi 5.30) i drafod ei hatgofion o'r digwyddiadau a arweiniodd at y Coleg Normal yn cael ei drafod yn y senedd.
Bydd Shelia Davies yn mynd i'r hen Goleg Normal, sydd bellach yn rhan o Brifysgol 黑料不打烊, ar gyfer lansiad 'Back to Normal'. Mae hwn yn fersiwn Saesneg o a gyhoeddwyd yn 2011 sy'n rhoi golwg ar hanes y Coleg Normal, o safbwynt y myfyrwyr.
Cafodd ymateb y Coleg i ymgyrch am fwy o ryddid i'r myfyrwyr benywaidd, dan arweiniad Sheila Davies fel Llywydd Cyngor y Merched, sylw gan y cyfryngau cenedlaethol. Trafodwyd y mater hyd yn oed ar lawr T欧'r Cyffredin a chynhaliwyd ymchwiliad gan y Weinyddiaeth Addysg.
Roedd gan fyfyrwyr gwrywaidd y Coleg fforwm i fynegi eu barn. Ond nid oedd gan y myfyrwyr benywaidd fawr ddim. Roedd Cyngor y Merched newydd gael ei greu'r adeg honno ond dim ond cydnabyddiaeth arwynebol a gafodd gan awdurdodau'r coleg.
Daeth Sheila Davies i Fangor o'r Ystrad yn y Rhondda ac fe'i hetholwyd yn llywydd Cyngor y Merched oedd newydd ei ffurfio am y flwyddyn academaidd 52-53. Gwelodd fel nad oedd y Cyngor yn cael ei gynnull dim ond pan fyddai awdurdodau'r Cyngor ei angen, a gan fod ganddynt fwyafrif ar y Cyngor roeddent yn atal unrhyw benderfyniadau. Felly penderfynodd Sheila a chorff y myfyrwyr mai'r unig ffordd ymlaen oedd dilyn beth oedd undebau myfyrwyr eraill wedi'i wneud a gweithio gydag arweiniad Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (NUS). Gyda chyngor a chymorth yr Undeb, lluniwyd deiseb dan ei harweinyddiaeth yn rhestru'r cwynion niferus am lymder rheolau'r Coleg fel yr oeddent yn effeithio ar ferched a chyflwynwyd y ddeiseb i'r Prifathro, Dr Richard Thomas.
Byddai'r gofynion a nodwyd yn y ddeiseb ar ran myfyrwyr benywaidd yn ymddangos yn anhygoel i fyfyrwyr heddiw. Roeddent yn cynnwys pethau fel cael yr hawl i fynd allan heb orfod egluro lle roeddent yn mynd na gyda phwy, a bod eu goleuadau yn cael eu diffodd yn awtomatig am 10.45 yn lle 10.15! Roedd gan fyfyrwyr gwrywaidd llawer mwy o ryddid i wneud beth bynnag yr oeddent eisiau.
Fel y mae Sheila ei hun yn cofio:
鈥淩oeddwn yn edrych ymlaen at symud i ogledd Cymru ond, yn fuan ar 么l ymgartrefu ym Mangor, dechreuais brofi ymdeimlad cryf o anghyfiawnder yngl欧n 芒鈥檙 rheolau a鈥檙 cyfyngiadau a osodid ar ein gweithgareddau, a sylweddoli mai ni oedd 鈥楽inderelas鈥 y bywyd cymdeithasol. Roeddem yn cymdeithasu 芒 myfyrwyr y Brifysgol a Choleg y Santes Fair, ac roedd llawer llai o gyfyngiadau ar fyfyrwyr benywaidd y colegau hynny, ac ar y dynion wrth gwrs, nag oedd arnom ni.
鈥淩oedd fy magwraeth wedi fy mharatoi i frwydro, ac roedd fy rhieni鈥檔 barod i鈥檓 cefnogi.鈥
Fel y mae Dr Tudor Ellis yn adrodd yn 鈥楤ack to Normal鈥:
鈥淢ewn ymateb i鈥檙 modd y gweithredodd wrth gyflwyno鈥檙 ddeiseb a鈥檌 phenderfyniad wedyn i wrthod cyfarfod 芒鈥檙 Prifathro heb gwmni ei chyd-fyfyrwyr, yn dilyn cyngor gan UCM, penderfynodd y Prifathro, ar 30 Ionawr 1953, anfon Sheila Davies adref.鈥
Mewn gwirionedd, diarddelwyd Sheila ychydig fisoedd cyn iddi gwblhau ei chwrs hyfforddi athrawon gwyddor t欧. Gwnaeth yr awdurdodau 鈥榝wch dihangol鈥 ohoni, gan ddisgrifio鈥檙 mater fel un yn ymwneud ag unigolyn, yn hytrach na rhywun oedd yn cynrychioli corff o fyfyrwyr. Nid ystyriodd awdurdodau鈥檙 coleg y gofynion a nodwyd gan y rhai a oedd wedi llofnodi鈥檙 ddeiseb.
Ar 么l i'r Weinyddiaeth Addysg ymyrryd, bu modd i Sheila gwblhau ei chwrs mewn coleg arall. Fodd bynnag, araf fu鈥檙 symudiad tuag at gydraddoldeb i fyfyrwyr benywaidd. Nid enillodd merched fwy o ryddid hyd nes i Dr Jim Davies ddod yn Brifathro ar y Coleg Normal ym 1969 - newidiadau a groesawyd yn dawel pan gyflwynwyd hwy, heb unrhyw sylw.
Yn 么l Fred Jarvis, a oedd ar y pryd yn Llywydd UCM ac a fyddai wedyn yn dringo i rengoedd uchel Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, yn ei hunangofiant, 鈥榊ou Never Know Your Luck鈥 (2014), 鈥淏u achos Sheila Davies yn fodd i ni (yn UCM) ddechrau trafodaeth agored ar yr holl fater yngl欧n ag agwedd colegau hyfforddi tuag at eu myfyrwyr, agwedd na ch芒i ei goddef pe bai prifysgolion yn ei chymryd. O hynny allan, gwella wnaeth y sefyllfa yn y colegau.鈥 (tud. 59)
Erbyn hyn mae'r llyfr wedi cael ei gyfieithu i'r Saesneg gan yr awdur, Dr Tudor Ellis, cyn-ddarlithydd yn y Coleg Normal, a chaiff 'Back to Normal' ei lansio mewn digwyddiad yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol 黑料不打烊 am 5.30 ar 5 Medi. Mae 'Back to Normal' ar gael yn y siopau llyfrau am 拢12.99. Gellir archebu cop茂au trwy anfon siec am 拢15.49 (yn cynnwys cost postio) yn daladwy i Brifysgol 黑料不打烊 at Gillian Pritchard, yr Ysgol Addysg, Safle鈥檙 Normal, 黑料不打烊 LL57 2PZ.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2014