Ymweliad gan Fyfyrwyr Nodedig o America 芒 Phrifysgol 黑料不打烊, i astudio diwylliant a threftadaeth ddiwydiannol Cymru
Mae鈥檔 bleser gan Brifysgol 黑料不打烊 groesawu wyth o fyfyrwyr disgleiriaf UDA wrth iddynt astudio diwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd Cymru mewn Sefydliad Haf newydd arloesol.
Mae un o sefydliadau addysgol mwyaf clodfawr y DU-UDA, sef Comisiwn Fulbright, wedi penodi Prifysgol 黑料不打烊 i gynnal Sefydliad Haf cyntaf Fulbright yng Nghymru, ochr yn ochr 芒 Phrifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth.
Rhwng 9 a 23 Gorffennaf, bydd israddedigion o America yn treulio pythefnos ym Mhrifysgol 黑料不打烊, yn astudio treftadaeth ddiwydiannol Cymru. Dewiswyd y myfyrwyr trwy gystadleuaeth, o Brifysgolion ar draws UDA, o Seattle i Dde Fflorida.
Tra byddant ym Mangor, bydd y myfyrwyr yn astudio鈥檙 digwyddiadau, y lleoedd a鈥檙 bobl sydd wedi ffurfio Cymru, ynghyd 芒鈥檙 dylanwad allweddol a gafodd diwydiant arnynt i gyd. Byddant yn archwilio effaith diwydiannau megis twristiaeth, mwyngloddio llechi ac amaeth ar yr ucheldiroedd, a鈥檙 modd y gall cenedl fach gynnal ei hunaniaeth mewn cyfnod o fyd-gyfannu.
Mae pob rhan o鈥檙 cwrs yn cynnwys gwaith cwrs academaidd, digwyddiadau diwylliannol ac ymweliadau 芒 safleoedd hanesyddol er mwyn cael profiad a dealltwriaeth o wahanol ranbarthau Cymru. Mae鈥檙 holl Brifysgolion dan sylw wedi penodi Cyfarwyddwr Cwrs i arwain eu helfen hwy o鈥檙 rhaglen.
Meddai Tecwyn Vaughan Jones, y Cyfarwyddwr Cwrs ar gyfer cyfraniad Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淏ydd Cymru鈥檔 bendant ar y map ar gyfer y myfyrwyr dawnus hyn. Pan ddychwelant i UDA, bydd ganddynt well dealltwriaeth o鈥檙 modd y mae diwydiant wedi ffurfio diwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd ein gwlad. Mae鈥檔 bleser gennym ein bod wedi gallu croesawu gr诺p mor ddisglair o unigolion ar y Sefydliad Haf clodfawr hwn o eiddo Comisiwn Fulbright.
Mae Comisiwn Fulbright yn hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ddiwylliannol trwy ysgoloriaethau addysgol ers mwy na 60 mlynedd. Menter newydd yw鈥檙 Sefydliadau Haf, sy鈥檔 anelu at gyflwyno myfyrwyr i鈥檙 Deyrnas Unedig, gan ddatblygu ac annog arweinyddiaeth ar yr un pryd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2011