Ymwelwyr o lwyth y Mohociaid
Dr Jean Ware o'r Ysgol Addysg efo Nathan Brinklow, Myfyriwr PhD Si么n Aled Owen a Callie Hill.Daeth dau o lwyth y Mohociaid yn Ontario, Canada i ymweld 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 yn ddiweddar i ddysgu am ymchwil y Brifysgol ym maes ieithoedd lleiafrifol ac i rannu eu profiadau eu hunain yn y maes. Bu鈥檙 ymchwilwyr a鈥檙 addysgwyr yn ymweld 芒 sawl unigolyn allweddol yn y brifysgol a鈥檙 ardal yn ystod yr ymweliad.
Cyflwynodd Callie Hill a Nathan Brinklow, Mohociaid o Tyendinaga, Ontario, Canada, seminar yn seiliedig ar waith Callie ar gyfer gradd Meistr ar adfywio iaith mewn cymuned nad yw (o reidrwydd) yn gweld ei phwysigrwydd. Roeddent yn ymchwilio a thrafod pwysigrwydd dysgu iaith o fewn hunaniaeth ddiwylliannol o safbwynt cymuned sydd wedi "colli" ei hiaith, hynny yw, lle nad oes unrhyw siaradwyr iaith gyntaf ar yr adeg y mae plant yn dechrau dysgu'r iaith. Daeth ysgolheigion a myfyrwyr o nifer o wahanol ddisgyblaethau i鈥檙 seminar, gan gynnwys addysg, seicoleg a chymdeithaseg.
Daeth yr ymweliad yn sgil cysylltiadau a wnaed gan ymchwilydd 么l-radd, Si么n Aled Owen, sy鈥檔 ymchwilio i addysg ieithoedd lleiafrifol ac ymestyn y defnydd o鈥檙 ieithoedd hynny tu allan i鈥檙 ysgol. Roedd Si么n wedi dod i gysylltiad 芒鈥檙 ymwelwyr Mohocaidd wrth wneud ei ymchwil a mynd i nifer o gynadleddau.
Agorodd Nathan Brinklow y seminar gyda diolch traddodiadol.Meddai Si么n:
鈥淢ae gennym lawer i rannu o鈥檔 profiadau yng Nghymru a llawr i ddysgu o fentrau cymunedau cenedlaethau gyntaf yng Nghanada a llefydd eraill. Rwy鈥檔 falch bod y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan ei fod yn gyfle prin i glywed yn uniongyrchol gan addysgwyr o blith brodorion Gogledd America a holi ymhellach am eu profiadau a'u syniadau.
Dywedodd Dr Jean Ware, pennaeth Ymchwil yn yr Ysgol Addysg: 鈥淢ae gennym gryn ddiddordeb mewn addysg ddwyieithog yn yr Ysgol Addysg gan edrych ar Gymru ac ar sefyllfaoedd mewn cyd-destunau eraill hefyd mewn gwledydd fel Canada a Tsieina.鈥
Meddai Callie Hill, Prif Weithredwr Canolfan Iaith a diwylliant Tsi Tyonnheht Onkwawenna cyn iddi siarad yn y seminar yn yr Ysgol Addysg : 鈥淢ae gennych lawer i ddathlu yma yng Nghymru o ran sefyllfa鈥檙 iaith, ac rydym wedi bod yn awyddus i ddod draw i ddysgu a rhannu ein profiadau ers sawl blwyddyn. Rydym wedi gorfod dechrau o sefyllfa lle roeddem wedi colli siaradwyr ein mamiaith, ond ar 么l deng mlynedd rydym bellach mewn sefyllfa lle mae gennym deuluoedd sy鈥檔 magu eu plant i siarad ein hiaith fel iaith gyntaf.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2015