Yr Arglwydd Brif Ustus yn agor Ffug Lys Barn newydd ym Mhrifysgol 黑料不打烊
Ddydd Iau, 9 Hydref, daeth Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas o Gwmg茂edd, i agor Ffug Lys Barn newydd ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Mae hyn yn cadarnhau ymhellach safle 黑料不打烊 fel Ysgol y Gyfraith flaengar ymysg prifysgolion Prydain, gan bwysleisio cyflogadwyedd a datblygiad sgiliau myfyrwyr fel elfen graidd o'i chwricwlwm gradd LLB yn y Gyfraith.
Wrth siarad yn y seremoni agor ffurfiol, canmolodd yr Arglwydd Thomas holl gyflawniadau 黑料不打烊 yn ystod y degawd ers iddi gael ei sefydlu yn 2004. Pwysleisiodd ei bod yn eithriadol bwysig i fyfyrwyr feithrin sgiliau eiriol a dadlau fel ffordd o baratoi at yrfa yn y gyfraith, ac roedd yn hynod ganmoliaethus o lwyddiannau diweddar myfyrwyr 黑料不打烊 mewn cystadlaethau ffug lysoedd barn yn genedlaethol a rhyngwladol.
Mae cynnal ffug achosion o'r fath eisoes yn weithgaredd pwysig ym Mangor. Yn 2014 yn unig cynhaliodd Ysgol y Gyfraith wyth o gystadlaethau mewnol a chystadlu mewn pump o gystadlaethau allanol. Un o'r cystadlaethau allanol hynny oedd , lle llwyddodd 黑料不打烊 i guro timau o Brifysgol De Cymru, y Brifysgol Agored, a Phrifysgolion Abertawe, Caerdydd ac Aberystwyth i gipio'r wobr gyntaf yn gynharach eleni. Mae'r Brifysgol hefyd wedi gwneud enw iddi'i hun ym maes ffug lysoedd barn yn Ewrop. Yn 2013 daeth yr Ysgol y Gyfraith gyntaf erioed o Gymru i gael ei derbyn i gystadleuaeth . Hwy oedd y t卯m o Brydain a berfformiodd orau yno ac fe wnaethant ddychwelyd yn gan wella ar eu perfformiad y llynedd. Mae'r Ysgol yn gobeithio y byddant yn fuddugol y tro nesaf pan fyddant yn dychwelyd i gystadleuaeth Telders yn 2015 a bydd y cyfleuster newydd hwn yn sicr yn hynod werthfawr wrth i'r t卯m baratoi at hynny.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Ysgol y Gyfraith ym Mangor wedi dangos yn amlwg ei sgiliau ym maes ffug lysoedd," meddai'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith. "Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan y Brifysgol yn gwella siawns myfyrwyr y gyfraith o gael swyddi, bydd yn dod 芒 mwy o gystadlaethau allanol i Fangor, a bydd yn gwella ansawdd yr adnoddau addysgu i'r modiwlau Sgiliau Cyfreithiol a Ffug Lysoedd Barn, modiwlau sy'n cael eu dysgu yn Gymraeg a Saesneg."
Croesawyd agoriad ffurfiol y ffug lys barn newydd hefyd gan yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊. "Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi ymrwymo i ddiweddaru ein cyfleusterau er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau gorau ar gael i'n holl fyfyrwyr. Rwy'n hynod falch fod Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas, wedi rhoi amser o'i amserlen hynod brysur i agor ein ffug lys barn newydd. Mae hyn yn tystio i fri cynyddu Ysgol y Gyfraith ym Mangor ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, a daw'n dynn wrth sodlau canlyniadau rhagorol iawn yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, lle daeth Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊 yn gyntaf yng Nghymru ac yn safle 11 yng ngwledydd Prydain."
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2014