Yr Athro John Ashton yn cael ei ethol i gyngor gweithredol BAFA
Mae academydd yn Ysgol Busnes 黑料不打烊 wedi cael ei benodi i gyngor gweithredol un o'r cymdeithasau academaidd hynaf ym maes cyllid yn y DU.
Yr Athro John Ashton o Ysgol Busnes 黑料不打烊
Cafodd yr Athro John Ashton, sy鈥檔 Athro ym maes Bancio, yr anrhydedd yn dilyn cael ei ethol yn Gadeirydd Gr诺p Diddordebau Arbennig Marchnadoedd a Sefydliadau Ariannol o fewn y British Accounting and Finance Association (BAFA) ehangach.
Sefydlwyd BAFA yn 1947 ac mae'n darparu llais proffesiynol i gymuned gyfrifyddu a chyllid y DU. Mae BAFA yn cydweithio 芒 sefydliadau eraill (megis Academi y Gwyddorau Cymdeithasol, yr Academi Brydeinig, a chyrff proffesiynol cyfrifyddu) i hyrwyddo cyfrifyddu a chyllid fel gwyddor gymdeithasol sy'n cael effaith ar arferion proffesiynol ac ar gymdeithas yn gyffredinol.
Mae'r Athro John Ashton hefyd yn Gymrawd Sefydliad Siartredig y Bancwyr yn yr Alban, yn aelod o banel academaidd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ac mae hefyd wedi ymgymryd 芒 chanllawiau polisi a hyfforddiant ar gyfer rheoleiddiwr ariannol y DU. Mae diddordebau academaidd yr Athro Ashton ym Mangor wedi canolbwyntio ar brisio mewn marchnadoedd bancio, yswiriant a chyfleustodau.
Yn ei r么l newydd, bydd yn cynrychioli pob un o'r 240 aelod o Gr诺p Marchnadoedd Ariannol a Sefydliadau Diddordeb Arbennig y Sefydliad oddi mewn BAFA - sydd ei hun yn sefydliad gyda dros 750 o aelodau academaidd.
Croesawyd penodiad yr Athro Ashton gan yr Athro Jonathan Williams, Pennaeth Ysgol Busnes 黑料不打烊, a ddywedodd:
鈥淢ae penodiad yr Athro John Ashton i gyngor gweithredol BAFA yn dyst i'w arbenigedd a'i enw da fel ysgolhaig rhagorol. Mae'n adlewyrchu dylanwad gwaith yr Athro Ashton mewn cylchoedd academaidd ac ymarferol ac mae'n newyddion gwych i Ysgol Busnes 黑料不打烊.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019