Yr awen yn ailgydio yn Harvard
Yr Athro Peredur LynchMae llawer o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ym Mangor wedi manteisio ar bartneriaid rhyngwladol y Brifysgol er mwyn cael cyfle i astudio dramor. Mae un o Athrawon yr Ysgol hefyd wedi dilyn eu hesiampl.
Cyfnod sabothol yn 鈥 un o bartneriaid Prifysgol 黑料不打烊 ym maes Astudiaethau Celtaidd 鈥 a roddodd y cyfle i鈥檙 Athro Peredur Lynch gyflawni hen, hen fwriad a chwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Caeth a Rhydd.
鈥淎r 么l bod yn bennaeth Ysgol am chwe mlynedd, mi gefais i dymor sabothol yn wobr! Gyda鈥檙 cyfle i ddianc o brysurdeb 黑料不打烊 mi wnes i fanteisio ar y llonydd oedd i鈥檞 gael yn Harvard i gynhyrchu cyfrol o gerddi o鈥檙 diwedd,鈥 meddai Peredur Lynch.
Ac yntau鈥檙 person ieuengaf erioed i ennill cadair yr Urdd, mae Peredur Lynch yn cael ei ystyried yn un o feirdd gorau鈥檙 Gymraeg sy鈥檔 defnyddio cynghanedd. Ond am flynyddoedd lawer fe lesteiriwyd ei ysbryd creadigol gan ymroddiad i waith academaidd mwy traddodiadol a dyletswyddau gweinyddol.
鈥淢i oedd rhai o鈥檙 syniadau dechreuol roddodd fod i lawer o鈥檙 cerddi wedi bod yn swatio鈥檔 dawel am flynyddoedd mewn rhyw ran cysglyd o 鈥檓hen i,鈥 meddai. 鈥淥nd y prif ysgogiad i ailafael mewn barddoni oedd colli fy nhad ychydig flynyddoedd yn 么l.鈥 Roedd ei dad, y Parchedig Evan Lynch (1917-2011) yn weinidog gyda鈥檙 Presbyteriaid, ac mae cyfres o ddeg cerdd yn y gyfrol wedi鈥檌 chyfansoddi er cof amdano. Yn ogystal ag archwilio perthynas mab a thad, mae鈥檙 gyfres hefyd yn rhoi ystyriaeth i faterion ehangach sy鈥檔 ymwneud 芒 ffydd a鈥檙 dystiolaeth Gristnogol yn y byd modern.
鈥淢i gafodd fy nhad ei ordeinio鈥檔 weinidog yn 1945, yn union ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd,鈥 meddai Peredur Lynch. 鈥淢i oedd barbareiddiwch y rhyfel hwnnw, yr Holocost, Hiroshima a Nagasaki, wedi rhoi cyd-destun erchyll o newydd i un o鈥檙 anawsterau diwinyddol hynaf sy鈥檔 wynebu pob credadyn 鈥 yr angen i gysoni鈥檙 syniad o Dduw hollalluog a chariadus hefo dioddefaint a thrychinebau.鈥
Cafodd yr gyfrol Caeth a Rhydd ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch ac y mae eisoes wedi derbyn adolygiadau gwresog mewn cylchgronau fel Barddas (鈥淸c]yfrol cwbwl arbennig鈥 鈥 Alan Llwyd), Barn (鈥渁wen a hanner yw hon鈥 鈥 Derec Llwyd Morgan) ac O鈥檙 Pedwar Gwynt (鈥渞hin cyfoethog hen win鈥 鈥 Gruffydd Aled Williams). A chan fod yr awydd i gyfansoddi wedi ailafael, mae gan Peredur Lynch nifer o syniadau creadigol eraill yn ffrwtian yn ei ben.
Mae prosiect arall y mae鈥檔 bwriadu ymgymryd ag o yn cyfuno ei ddiddordebau creadigol ac ysgolheigaidd. Gan adeiladu ar gydweithio sydd eisoes yn bod 芒 chydweithwyr yn Ysgol Seicoleg 黑料不打烊 ym maes newroestheteg, y mae鈥檔 gobeithio cwblhau astudiaeth eang o鈥檙 dadeni cynganeddol yng Nghymru. Bydd cyd-destunau llenyddol, cymdeithasol ac ideolegol y dadeni yn cael eu dadansoddi. Y gobaith hefyd yw y bydd y prosiect yn cynnig cyfleon pellach i gyflawni arbofion empiraidd ar ymateb y meddwl dynol i鈥檙 gynghanedd ac estheteg y canu caeth.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2018