Yr Ysgol a 鈥楪waddol Gwyn鈥
Mae penwythnos o ddarlithoedd a thrafod ym Mangor yn gobeithio dal rhywfaint o amrywiaeth y cyfraniad anferth a wnaeth cyn-bennaeth adran y Gymraeg.
Mae鈥檙 gynhadledd 鈥楪waddol Gwyn鈥 yn edrych ar rai agweddau o鈥檙 gwaith a gyflawnodd y bardd a鈥檙 darlithydd Gwyn Thomas, gan gynnwys bron hanner canrif o gysylltiad gyda鈥檙 Brifysgol.
鈥淩oeddan ni鈥檔 teimlo bod angen digwyddiad i gofio am un o brif ffigurau llenyddol Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif 鈥 roedd ei gyfraniad yn aruthrol,鈥 meddai pennaeth presennol yr adran, yr Athro Gerwyn Wiliams.
鈥淢ae hi鈥檔 hollol addas mai ym Mangor y mae鈥檙 gynhadledd yn cael ei chynnal am mai yma y treuliodd o鈥檙 rhan fwya鈥 o ddigon o鈥檌 yrfa broffesiynol ac oedd o鈥檔 cael ei uniaethu efo鈥檙 lle. Mi fuodd yna genedlaethau o fyfyrwyr yn astudio wrth ei draed o.鈥
Mae鈥檙 gynhadledd, nos Wener a dydd Sadwrn 23 a 24 Mawrth yn adeilad Pontio, yn cynnwys sgyrsiau am amrywiaeth fawr o ddiddordebau Gwyn Thomas, o grefydd i deledu a ffilm ac o gyfieithu gweithiau Shakespeare i gerddi plant.
Un o鈥檌 gyfeillion a chyn-gydweithwr, Yr Athro Gruffydd Aled Williams, fydd yn agor y cyfan gyda darlith ar y nos Wener yn crynhoi holl amrywiaeth cyfraniad Gwyn Thomas ac mae un o fyfyrwyr ymchwil yr Ysgol, Elis Dafydd, wedi gwneud cyfweliadau ffilm gyda nifer o feirdd cyfoes yn s么n am ei ddylanwad arnyn nhw.
鈥淢i fydd hwnna鈥檔 adnodd gwerthfawr i ymchwilwyr yn y dyfodol,鈥 meddai Gerwyn Wiliams. 鈥淢ae鈥檔 cynnwys llais mwy nag un genhedlaeth, sy鈥檔 addas iawn.鈥
Mi fyddai Gwyn Thomas wrth ei fodd gyda鈥檙 adeilad lle mae鈥檙 gynhadledd hefyd 鈥 canolfan gelfyddydau newydd y Brifysgol, Pontio.
鈥淔el un a gredai鈥檔 angerddol yn y celfyddydau, rwy鈥檔 tybio y byddai Gwyn wedi bod wrth ei fodd o wybod bod y gynhadledd hon yn cael ei chynnal mewn adeilad mor gyffrous ei bosibiliadau ag adeilad Pontio,鈥 meddai Gerwyn Wiliams.
Does dim t芒l am ddod i鈥檙 gynhadledd ond mae angen cofrestru ymlaen llaw. Mae鈥檙 manylion fan hyn:
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mawrth 2018