Ysgol Athroniaeth a Chrefydd wedi lansio

Is-Ganghellor Yr Athro John G. Hughes a Dr. Eryl DaviesDaeth llawer o staff academaidd a gweinyddol o Goleg y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau i lansio Ysgol newydd Athroniaeth a Chrefydd yn Ystafell y Cyngor ddydd Gwener, 12 Hydref. Roedd aelodau鈥檙 Cyngor yn bresennol a chroesawodd yr Is-ganghellor bawb a oedd wedi medru dod i鈥檙 achlysur. Er bod hwn yn gynllun newydd dywedodd Dr Eryl W Davies, Pennaeth yr Ysgol newydd, bod yr Ysgol yn cael ei hadeiladu ar seiliau cadarn gan fod crefydd (mewn amrywiol weddau) wedi cael ei dysgu ym Mangor am ymhell dros ganrif, tra bod athroniaeth wedi cael ei ddysgu yma tan ddechrau鈥檙 1980au. Felly roedd traddodiad maith a chlodwiw o ddysgu鈥檙 ddau bwnc yn y brifysgol. Diolchodd Dr Davies i aelodau鈥檙 Cyngor ac i鈥檙 Is-ganghellor am eu cefnogaeth, yn ogystal ag i鈥檙 staff gweinyddol a oedd wedi gweithio yn y cefndir er mwyn sicrhau bod lansio鈥檙 Ysgol newydd yn llwyddiant.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012