Ysgol Busnes ºÚÁϲ»´òìÈ yw’r gorau ym Mhrydain am ymchwil Bancio
Ysgol Busnes ºÚÁϲ»´òìÈ yw’r sefydliad gorau ym Mhrydain – ac un o 30 goreuon y byd – am ymchwil Bancio, yn ôl arolwg diweddar.
Mae’r arolwg gan RePEc (Research Papers in Economics), sy’n gysylltiedig ag Adran Ymchwil Economaidd Banc Cronfa Ffederal St. Louis, yn ystyried ymchwil a chyhoeddiadau gan banciau, economwyr a sefydliadau ariannol eraill, yn ogystal â phrifysgolion fel ºÚÁϲ»´òìÈ.
Gosodwyd ºÚÁϲ»´òìÈ yn 27fed yn y tabl – y safle uchaf ar gyfer unrhyw sefydliad Prydeinig, o flaen Prifysgol Rhydychen (37) a’r London School of Economics (45).
Seiliwyd arolwg RePEc ar data llyfryddiaethol, dyfyniadau a data poblogrwydd ar gyfer 878 awdur ac 1294 sefydliad. I weld y rhestr llawn, ewch i
Yn Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) diweddaraf y llywodraeth Brydeinig, dyfarnwyd Ysgol Busnes ºÚÁϲ»´òìÈ fel am ansawdd yr ymchwil a chynilwyd gan ei staff ym meysydd Cyfrifeg, Bancio a Chyllid.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2012