Ysgol Cerddoriaeth yn enill dwy wobr Cronfa Goffa Thomas Ellis
Ar 么l edrych drwy ugeiniau o geisiadau oddi wrth nifer hynod o dalentog o ymgeiswyr, mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi enillwyr Cronfa Goffa Thomas Ellis eleni.
Gwawr Ifan a Guto Puw o'r Ysgol GerddBydd y darlithydd Cerdd ym Mhrifysgol 黑料不打烊, Dr Guto Pryderi Puw, yn derbyn 拢1500, a bydd y myfyriwr PhD, Gwawr Ifan, hefyd o Brifysgol 黑料不打烊 yn derbyn 拢1000.
Ag yntau鈥檔 gyfansoddwr preswyl gyda Cherddorfa Genedlaethol BBC Cymru rhwng 2006 a 2010, bwriad Guto yw gwario鈥檙 arian ar ddogfennu canlyniadau pedair blynedd o gyfansoddi, nad oes recordiadau stiwdio ar gael ohonynt eto.
Mae ei waith wedi ennill canmoliaeth eang gan feirniaid Cerdd cenedlaethol; enillodd Concerto for Oboe wobr Gwrandawyr BBC Radio 3 yng Ngwobrau Cyfansoddwyr Prydain yn 2007, ac enwebwyd Reservoirs am un o Wobrau鈥檙 Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 2005.
Cafodd tri darn cerdd mawr eu cyfansoddi a鈥檜 datblygu yn ystod cyfnod Guto gyda鈥檙 gerddorfa, a berfformiwyd ledled y wlad. Ymhlith y neuaddau cyngerdd nodedig lle cynhaliwyd perfformiadau o鈥檌 gerddoriaeth roedd Neuadd Brycheiniog Aberhonddu, Neuadd Prichard Jones ym Mangor, Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain, Modena, Brescia a Begamo yn yr Eidal.
Wrth dderbyn y dyfarniad, dywedodd Guto:
鈥淏yddai cynhyrchu CD o fy nghyfansoddiadau cerddorfaol yn creu casgliad cynhwysfawr o fy nghynnyrch creadigol diweddar a byddai鈥檔 gyfraniad pwysig i fy mhroffil ymchwil. Ni fyddai hyn yn bosibl heb haelioni Prifysgol Cymru.鈥
A hithau鈥檔 astudio am radd PhD mewn Cerddoriaeth mewn Iechyd yn Ysgol Gerdd Prifysgol 黑料不打烊, defnyddiodd Gwawr ei dyfarniad i dalu am daith i Awstralia i gynhadledd ryngwladol ar Therapi Cerdd. Ystyrir bod Awstralia a Seland Newydd yn arloeswyr ym maes ymchwil Gwawr.
Mae Cerddoriaeth mewn Iechyd yn faes cymharol newydd yng Nghymru, ac felly y prosiect PhD hwn fydd yr ymchwil cyntaf o鈥檌 fath yng Nghymru ac yn y Gymraeg.
Traddododd bapur ar cerddoriaeth mewn iechyd yn y gynhadledd, ac ymwelodd ag arbenigwyr yn ymarfer therapi cerdd gan greu cysylltiadau byd-eang.
Gan dynnu bwysleisio pwysigrwydd y dyfarniad i鈥檞 phrosiect, dywedodd Gwawr;
鈥淢ae鈥檔 fraint enfawr i gael fy ennill gwobr Cronfa Goffa Thomas Ellis. Bu鈥檙 wobr yn gymorth mawr i mi yn fy ymchwil doethurol, drwy alluogi i mi deithio i Awstralia lle rwyf i wedi creu cysylltiadau. Rwyf i鈥檔 ddiolchgar iawn am y cyfle arbennig hwn ac am y cysylltiadau pwysig yr wyf i wedi鈥檜 gwneud ac a fydd yn fanteisiol i鈥檙 Ysgol Gerdd ym Mangor yn y dyfodol鈥
Caiff grantiau o Gronfa Goffa Thomas Ellis eu dyfarnu i gynorthwyo ymchwil i iaith, llenyddiaeth, hanes a hynafiaethau Cymru a Mynwy a chyhoeddi canlyniadau ymchwil o鈥檙 fath.
Sefydlwyd y gronfa er cof am y diweddar Thomas Edward Ellis MA, Warden Urdd y Graddedigion (1896-1899), ac Aelod Seneddol Meirionnydd yn ystod 1886-1899.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2011