Ysgol St Gerard's yn dod i鈥檙 brig!
O'r chwith: Tomos Laing BL10, Oscar Downing BL9, Gwyn Owens BL10 ac Owen Hughes BL11 gyda Mrs David, athrawes Cemeg a Dr Lorrie Murphy T卯m o Ysgol St Gerard's ym Mangor a enillodd ornest gogledd Cymru yn y gystadleuaeth 鈥淭op of the Bench鈥 eleni, a drefnwyd gan yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Cynhelir y gystadleuaeth genedlaethol i rai 14-16 oed gan y Gymdeithas Frenhinol Cemeg, a chynhelir gornestau ar hyd a lled y wlad.
Gwnaeth 10 t卯m o ysgolion lleol gystadlu am y cyfle i gystadlu rhan yn y rownd derfynol, a gynhelir yn yr Adran Cemeg ym Mhrifysgol Birmingham ar 3 Mawrth 2018. Bydd St Gerard's yn teithio yno i gystadlu.
Meddai Dr Lorrie Murphy o Ysgol Cemeg 黑料不打烊: "Cawsom ein plesio'n fawr gyda lefel y wybodaeth gemeg a ddangoswyd gan bob un o'r ysgolion a ddaeth i gystadlu. Roedd yr ornest ranbarthol unwaith eto eleni yn un agos iawn gyda鈥檙 sg么r buddugol yn 55/70, sy'n sg么r da iawn. Dymunwn bob llwyddiant i St Gerard's yn Birmingham ym mis Mawrth.鈥
Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar ddau safle trwy ddefnyddio sesiynau Skype ar gyfer y cyflwyniad a'r diweddglo, a chynhaliwyd y cwis ar yr un pryd ar y ddau safle.
Daeth 8 t卯m i Fangor ac roedd 3 th卯m yn Techniquest yn Wrecsam.
Yr ysgolion a gymerodd ran oedd:
- Ysgol Alun
- Ysgol Tryfan
- Rydal Penrhos School
- Ysgol Dyffryn Conwy
- Ysgol David Hughes
- Ysgol St. Gerard's
- Ysgol Eirias
- Coleg Dewi Sant
- Ysgol Aberconwy
- Ysgol Rhuthun
- Ysgol Croesoswallt
I gael rhagor o wybodaeth ddigwyddiadau i ysgolion yn yr Ysgol Cemeg, ewch i /chemistry/schools.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2018