Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊 yn codi'i safle yn nhablau The Guardian
Ysgol y Gyfraith, 黑料不打烊 bellach yw ysgol orau'r gyfraith yng Nghymru, yn 么l y tablau cynghrair diweddaraf a gyhoeddwyd gan .
Mae'r Ysgol hefyd wedi codi i safle 32 yn y DU, o blith 98 o sefydliadau a gynhwysir yn y tablau.
Mae tablau cynghrair The Guardian yn cael eu cyfrifo o sgoriau sy'n mesur boddhad myfyrwyr, y gymhareb myfyrwyr/staff, gwariant fesul myfyriwr, cyfartaledd gofynion mynediad, a'r ganran o raddedigion sydd mewn gwaith neu astudiaeth bellach ar 么l graddio.
Mae'r llwyddiant diweddaraf hwn yn dilyn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2014, a bennodd fod Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊 yn - ac yn gydradd 5ed yn y DU - o ran boddhad myfyrwyr.
"Mae ein sylw i adborth yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan ein myfyrwyr - ac mae hynny, ynghyd 芒 dosbarthiadau o faint hylaw, yn creu profiad ardderchog i fyfyrwyr y Gyfraith ym Mangor", dywedodd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊. "Yn annhebyg i'r rhan fwyaf o ysgolion eraill y Gyfraith yn y DU, nid ydym dan bwysau i gynyddu niferoedd ein myfyrwyr, felly mae gan ein myfyrwyr y cyfle i ryngweithio mwy gyda'n hacademyddion gwych a derbyn mwy o gefnogaeth ganddynt. Rydym yn dueddol o ddenu myfyrwyr o ansawdd uwch, felly mae'r amgylchedd dysgu yn un cadarnhaol."
Ychwanegodd: "Mae myfyrwyr yn arbennig o werthfawrogol o'r ffaith ein bod wedi sefydlu interniaethau gyda chwmn茂au cyfreithwyr, sy'n eu cynorthwyo i ddod o hyd i swyddi da ar 么l eu gradd. Eleni, mae gennym fyfyrwyr mewn interniaethau ym Manceinion, Lerpwl, Caerdydd, Llundain, Brwsel a Dulyn. Mae'r cyfleoedd yn agoriad llygad iddynt i yrfaoedd posib yn y gyfraith, ac yn eu cynorthwyo i wneud y dewis gyrfa cywir ar 么l graddio."
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2015