Ysgol Y Gyfraith 黑料不打烊 yn dathlu 10 mlynedd o ragoriaeth
Cynhaliwyd gwsanaeth cyfreithiol i ddathlu dechrau dysgu'r Gyfraith fel pwnc yn y Brifysgol.Yr wythnos nesaf bydd dros 150 o gyn-fyfyrwyr a chyn staff Prifysgol 黑料不打烊 yn dod i ddathliad arbennig i nodi deng mlynedd ers sefydlu Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Ers ei sefydlu yn 2004 mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol 黑料不打烊 wedi saethu i fyny'r tablau cynghrair gan ddod y flaenaf o blith ysgolion y gyfraith yng Nghymru, yn 么l .
Bellach mae yn safle 32 ym Mhrydain ac mae llawer o'i chyn fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i swyddi llwyddiannus fel bargyfreithwyr a chyfreithwyr gyda chwmn茂au a siambrau o safon. Ceisir ei graddedigion hefyd gan gyflogwyr mewn sectorau tu allan i'r byd cyfreithiol.
Mae'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth yr Ysgol, yn priodoli'r llwyddiant hwn i faint bychan y dosbarthiadau. "Mae Ysgol y Gyfraith yn canolbwyntio ar ddatblygu ymwybyddiaeth fasnachol ac mae'r rhwydwaith enfawr sydd ar gael i alumni 黑料不打烊 drwy'r cysylltiadau helaeth a ddatblygwyd gan ein staff yn allweddol i lwyddiant ein graddedigion.
"Rydym wedi osgoi'r demtasiwn, y mae llawer o ysgolion y gyfraith ym Mhrydain wedi syrthio iddi, o ddatblygu'n ysgol fawr yn hytrach na chynnig profiad prifysgol o safon uchel i'w graddedigion; o ganlyniad mae ein graddedigion ymhell ar y blaen pan mae'n dod yn fater o baratoi ar gyfer y farchnad swyddi gystadleuol iawn sy'n bodoli."
Mae safle'r ysgol, sef y gyntaf yng Nghymru a'r 13eg ym Mhrydain yn yr diweddaraf, yn tystio i hyn. Felly hefyd, y nifer eithriadol uchel o'i myfyrwyr - yn y 90au - sy'n cael swyddi yn y maes, o'i gymharu 芒 chyfartaledd y sector o 62%. Mae hyn yn ei rhoi yn agos i'r brig o ran cyflogadwyedd ymysg ysgolion y gyfraith ym Mhrydain.
Myfyrwraig Laura Delaney yn trafod yn ffug lus barn y Brifysgol yn 2013.Bellach mae ei Ffair y Gyfraith flynyddol yn denu rhai o brif gwmn茂au a siambrau'r gyfraith sydd eisiau cyflogi graddedigion 黑料不打烊, ac mae'r prif bleidiau gwleidyddol yn Llundain a Chaerdydd yn ceisio cyngor strategol gan ei hacademyddion mewn meysydd fel cyfraith a strategaeth pryniant cyhoeddus.
Mae rhai o alumni 黑料不打烊 hyd yn oed wedi sefydlu eu cwmn茂au cyfreithiol eu hunain, tra bo eraill wedi aros yn y byd academaidd, gan astudio am raddau PhD neu LLM o blith darpariaeth helaeth yr Ysgol o raglenni arbenigol mewn Cyfraith Pryniant Cyhoeddus a Chyfraith Droseddol Ryngwladol.
Mae cerrig milltir o bwys yn hanes yr Ysgol yn cynnwys bod y sefydliad Cymreig cyntaf i gystadlu yng a chael ei gwahodd i ddadlau mewn ffug lys gerbron y .
Y llynedd, dathlodd agor gan Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr ac yn a fe wnaeth aelodau staff academaidd gyrraedd rownd derfynol Prydain am wobr 'Athro'r Gyfraith y Flwyddyn' a gynhelir gan Wasg Prifysgol Rhydychen, sy'n tystio i ragoriaeth dysgu'r Gyfraith ym Mangor.
Dethlir y llwyddiannau hyn, a llawer eraill, mewn digwyddiad deuddydd nodedig a gynhelir ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar 31 Gorffennaf a 1 Awst, gyda staff a myfyrwyr presennol yn ogystal 芒 chyn staff a myfyrwyr.
Chwith-dde: Athro Dermot Cahill (Pennaeth Ysgol y Gyfraith), Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas o Gwmg茂edd a Stephen Clear (Ysgol y Gyfraith) ar achlysur agor Ffug Lys Barn y Brifysgol.Bydd y dathliadau'n cynnwys barbiciw, derbyniad rhwydweithio, trafodaethau panel a g锚m b锚l-droed rhwng staff a myfyrwyr. Penllanw'r penwythnos fydd cinio mawreddog gyda'r Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, yn bresennol, ynghyd 芒 ffigurau amlwg o fyd y gyfraith, cerddorion a gwesteion arbennig eraill, yn cynnwys Shaun Wallace, Uwch Fargyfreithiwr yn Great James Street Chambers s seren 'The Chase' ar ITV.
Bu Shaun yn fargyfreithiwr amddiffyn mewn achosion troseddol am 25 mlynedd ac mae ganddo brofiad enfawr ar draws ystod eang o achosion troseddol difrifol, yn cynnwys llofruddiaeth - yn arbennig achosion Operation Trident - dynladdiad, troseddau rhywiol difrifol, twyll, gwyngalchu arian, gwerthu arfau a chyffuriau. Erbyn hyn mae'n wyneb cyfarwydd iawn ar y teledu, gan ennill 'Mastermind' y BBC yn 2004 ac mae wedi ymddangos yn 'Eggheads', '15-1', 'The Weakest Link' a 'The Chase', lle mae'n ymddangos fel 'Chaser' ar hyn o bryd. Mae wedi cyflwyno rhaglenni ar Radio 4 ac mae'n gyfrannwr rheolaidd ar Radio 5 Live.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2015