Ysgolhaig o Brifysgol 黑料不打烊 yn ennill Gwobr Academaidd fawr i ymchwilio i Stanley Kubrick
Mae bywyd a gwaith y gwneuthurwr ffilm chwedlonol, Stanley Kubrick, yn dod o dan y chwyddwydr mewn project ymchwil newydd yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol 黑料不打烊. Mae Dr Nathan Abrams, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm, wedi ennill grant o 拢76,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) i ymchwilio i waith Stanley Kubrick o safbwynt ei etifeddiaeth Iddewig a鈥檌 gefndir deallusol.
Mae gwaith Stanley Kubrick yn cwmpasu llawer o wahanol fathau o ffilm a phynciau, gyda sawl ffilm yn torri tir newydd o ran arddull sinematig. Mae ei ffilmiau wedi bod yn boblogaidd gyda'r cyhoedd a'r beirniaid. Gellir dehongli eu negeseuon mewn gwahanol ffyrdd ac mae modd eu mwynhau a鈥檜 dadansoddi ar sawl lefel.
"Er gwaethaf yr holl ymchwil sydd wedi鈥檌 gwneud ar Kubrick 鈥 ac mae mwy mae鈥檔 debyg wedi鈥檌 ysgrifennu am Kubrick nag unrhyw gyfarwyddwr arall, ac eithrio Alfred Hitchcock 鈥 eto鈥檌 gyd, ychydig iawn sy鈥檔 seiliedig ar ymchwil wreiddiol i'w archifau ei hun. Nid yw ei statws deallusol a鈥檌 ethnigrwydd wedi'u hystyried i unrhyw raddau helaeth chwaith, "meddai Dr Abrams.
Mae Dr Abrams yn gobeithio cynnig gogwydd newydd er mwyn dehongli ffilmiau Stanley Kubrick, fel yr eglurodd: "Rwy'n gobeithio unioni hyn drwy seilio fy ymchwil ar ddeunydd archifol helaeth. Byddaf hefyd yn rhoi ystyriaeth lawn i鈥檙 gymuned ddiwylliannol ddeallusol yn Efrog Newydd yr oedd Kubrick yn aelod ohoni, ac effaith cefndir ei ddiwylliant Iddewig ar ei waith. "
Er nad oedd Kubrick yn ymarfer ei grefydd Iddewig ac nad yw cyfeiriadau na safbwynt Iddewig yn eglur neu'n amlwg yn ei ffilmiau, mae Nathan Abrams yn dadlau unwaith y byddwch yn ystyried ei ffilmiau o safbwynt ei ethnigrwydd, a'i amgylchfyd diwylliannol, yna mae rhai them芒u cryf yn dod i'r amlwg. Er enghraifft, mae Abrams yn dehongli ei gyfraniad i genre y ffilm arswyd, yn ei ffilm, The Shining, 1980, fel un sy鈥檔 delio 芒'r thema Iddewig iawn o鈥檙 tad yn aberthu ei fab. Mae hwn yn ddehongliad newydd o ffilm sydd wedi ei cael ei gwylio a鈥檌 thrafod yn ddiddiwedd.
"Nid yw鈥檙 hawdd neu鈥檙 amlwg byth yn un o nodweddion ffilmiau Kubrick," meddai Abrams. "Ychydig o ddatganiadau cyhoeddus a wnaeth am ei ffilmiau. Treuliodd amser maith yn gweithio ar ei ffilmiau. Roedd yn rhoi sylw obsesiynol iddynt gan ymwneud llawer 芒 manylion. Roedd yn hynod ddiwylliedig ac yn sicr roedd ganddo farn i鈥檞 mynegi. Eto, rwy鈥檔 tybio ei fod wedi chwilio am y ffyrdd lleiaf amlwg o gyfleu ei negeseuon i鈥檙 gwyliwr; roedd o鈥檔 awyddus i鈥檙 gwyliwr weithio'n galed i ddeall ystyr ddyfnach ei negeseuon.鈥
"Alla i ddim profi鈥檔 bendant bod Kubrick wedi bwriadu i'w ffilmiau gael eu deall yn y ffordd rwyf i'n eu gweld, ac mae ffyrdd gwahanol o hyd o ddehongli cyfrwng gweledol fel ffilm. Eto, alla i ddim credu chwaith bod cyfarwyddwr a oedd yn meddwl mor ddwfn am ei waith am adael i鈥檞 wylwyr gamddehongli ei ffilmiau.鈥
Mae Abrams hefyd yn gobeithio dadlau bod ffilmiau Kubrick yn cynnig lens i ni weld digwyddiadau mawr yr 20fed ganrif drwyddi: y ddau ryfel byd, yr Holocost, cyfnod McCarthy yn America a'r Rhyfel Oer, y ras arfau a鈥檙 ras ofod a Rhyfel Fietnam, yn ogystal 芒 datblygiad cymdeithas yr Unol Daleithiau ac Ewrop yn y cyfnod 1951-1999, a chyfle i archwilio them芒u allweddol gwyddoniaeth, technoleg gwybodaeth, hanes, hil, trais, gender, ethnigrwydd, rhywioldeb, crefydd a rhyfel a sut mae'r rhain yn effeithio ar gwestiynau yn ymwneud ag ethnigrwydd a galwedigaeth ddeallusol.
Meddai Dr Abrams, "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael y grant yma. Bydd yn rhoi naw mis i mi dreiddio鈥檔 wirioneddol i waith y gwneuthurwr ffilmiau enigmatig a rhwystredig o eliptig yma. Gan fod grant Cymrodoriaeth AHRC yn hynod gystadleuol, mae'n tystio i bwysigrwydd yr ymchwil i Astudiaethau Ffilm ac Astudiaethau Iddewig rydym yn ei wneud yma ym Mangor. "
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2012