Ysgolhaig yn dychwelyd i鈥檞 mamwlad i drafod Chwedlau Arthuraidd
Dr Raluca Radulescu.Mae academydd a syrthiodd mewn cariad 芒 llenyddiaeth Arthuraidd tra鈥檔 fyfyriwr israddedig yn Rwmania yn dychwelyd i'w mamwlad i gyflwyno ei hymchwil diweddaraf mewn cynhadledd ryngwladol lle bydd arbenigwyr Arthuraidd o bob cwr o'r byd.
Mae yn cael ei gynnal gan y Ganolfan Astudiaethau Canoloesol ym Mhrifysgol Bucharest, Romania, ym mis Gorffennaf (20-27 Gorffennaf 2014).
Mae Dr Raluca Radulescu bellach yn arbenigwr blaenllaw rhyngwladol ar Lenyddiaeth Arthuraidd, ac yn ddarlithydd yn Prifysgol 黑料不打烊, lle mae'n arwain yn unig gwrs MA yn y byd mewn Llenyddiaeth Arthuraidd. Mae hi hefyd yn golygu'r Cylchgrawn a lansiwyd yn ddiweddar, sef y cyhoeddiad diweddaraf mewn 65 mlynedd o gyhoeddiadau ysgolheigaidd gan y Gymdeithas academaidd hon.
Bydd Dr Radulescu yn cyflwyno papur ar berthnasoedd mewn llenyddiaeth Arthuraidd. Bydd yn olrhain datblygiad pan-Ewropeaidd o ffordd arbennig o fynegi cariad brawdol a chwmn茂aeth yn y chwedlau Arthuraidd. Mae goblygiadau astudiaeth hon yn bellgyrhaeddol, gan y gall y modd y mae emosiynau cadarnhaol a negyddol yn cael eu mynegi mewn llenyddiaeth gynnar ddatgelu llawer am seicoleg ddynol yn ogystal 芒 normau ymddygiad yn y gymdeithas ganoloesol.
Eglurodd Dr Radulescu:
"Mae llenyddiaeth gynnar, ac yn arbennig ei pherthynas ag amrywiaeth o ddimensiynau, fel tueddiadau diwylliannol, gweithredu gwleidyddol neu ragolygon yn wir grefyddol, wedi fy hudo o blentyndod. Yr wyf wastad wedi edrych i'r gorffennol er mwyn deall y presennol yn well, boed hynny drwy hen fythau a chwedlau sy'n wedi goroesi drwy鈥檙 canrifoedd a miloedd o flynyddoedd, neu drwy ddatblygu ieithoedd (yn enwedig drwy astudio tarddiad a chyfieithu), i roi dim ond dwy enghraifft.
"O ran llenyddiaeth Arthuraidd, tarddiad yr ap锚l barhaus yw chwedl Arthur, brenin y disgwylir iddo gael ei aileni, gan gynnig gobaith nid yn unig i'r rhai sy'n credu yn ei realiti hanesyddol tybiedig, ond hefyd y rhai sy鈥檔 breuddwydio am well trefn ar bethau. Mae鈥檙 fersiynau lu sy鈥檔 ailadrodd chwedl Arthuraidd yn yr ieithoedd brodorol yr Oesoedd Canol fel Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg ac Iseldireg yn dangos ap锚l pan-Ewropeaidd y chwedl. Efallai y byddwn hyd yn oed yn mynd mor bell 芒 dweud bod llawer o genhedloedd a phobloedd Canol Oesol y Gorllewin yn awyddus i gymryd rhan yn chwedl y Ford Gron a'i hegwyddorion cydraddoldeb honedig ymhell cyn dyfodiad yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r myth yn dyfalbarhau hyd heddiw am yr un rhesymau, fel stori gofiadwy, sy鈥檔 croesi ffiniau cenedl, ac sy鈥檔 galluogi awduron modern i uno hud 芒 chyfeiriadau at y realiti gwleidyddol cyfoes - a hynny鈥檔 union fel y gwnaeth yr awduron canoloesol. "
Bydd Dr Radulescu hefyd yn cyfrannu at y cyfarfod yn trafod project pan-Ewropeaidd newydd: 'Arthur Hwyr ', sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad y chwedl Arthuraidd yn y cyfnod canoloesol diweddarach, a鈥檌 ddylanwad ar yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. O fewn y project hwn, bydd Dr Radulescu yn cydlynu'r adran sy'n delio 芒 chyd-destunau gwleidyddol a chymdeithasol diwylliannol, llenyddol yr oedd astudiaethau Arthuraidd yn ffynnu ynddynt yn Ynysoedd Prydain yn ystod y cyfnodau hyn, drwy gomisiynu penodau gan arbenigwyr blaenllaw yn y maes a chyfrannu ei phennod ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014