Ysgolion ar draws y rhanbarth yn cael blas ar fasnachu wrth iddynt gymryd rhan mewn sialens sgiliau unigryw
Cafodd disgyblion o bob cwr o Ogledd Cymru y cyfle i brofi cyffro a chynnwrf gwerthu ar lawr masnachu byw Y t卯m buddugol: Ysgol Friars, 黑料不打烊diolch i fenter 鈥楽ialens y Farchnad Stoc鈥 Prifysgol 黑料不打烊.
Cynigodd y sialens le i 165 o ddisgyblion o 13 ysgol gwahanol a chynhaliwyd hi ddydd Mercher y 29ain o Fehefin ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Noddwyd y fenter gan HSBC a chefnogwyd hi gan Ysgol Fusnes 黑料不打烊.
Y sialens oedd i鈥檙 timau bach o ddisgyblion blwyddyn 12 ddefnyddio eu sgiliau i reoli portffolio o gyfandaliadau ac arian tramor. Gwnaent eu buddsoddiadau wrth ddehongli a dadansoddi gwybodaeth o鈥檙 marchnadoedd ariannol. Dwy awr oedd hyd yr ymarfer masnachu byw, a鈥檙 t卯m gyda鈥檙 portffolio uchaf ar ddiwedd y dydd oedd yn fuddugol.
Ysgol Friars, 黑料不打烊, gyrhaeddodd y brig wedi iddynt brofi eu meistrolaeth ar y llawr masnachu, a gorffen gyda chronfa o 拢99,600 wedi鈥檌 rheoli鈥檔 llwyddiannus iawn. Yn ail agos roedd Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon a wnaeth elw sylweddol o 拢96,200.
Y t卯m a ddoth yn ail: Ysgol Syr Hugh Owen, CaernarfonEleni cynigiwyd y profiad unigryw hwn i gannoedd o ddisgyblion diolch i鈥檙 noddwyr a roddodd drwydded am ddim i adnodd ar-lein Sialens y Farchnad Stoc i鈥檙 ysgolion hynny a gymerodd ran. Cyn y digwyddiad, gosodwyd tasgau yn yr ysgolion gan athrawon Bagloriaeth Cymru, Astudiaeth Busnes a Mathemateg i ddewis y pum disgybl a fyddai鈥檔 eu cynrychioli.
Dywedodd Rachel Thomas, cyfarwyddwr rhanbarthol PSF HSBC yng Nghymru, 鈥淢ae Sialens y Farchnad Stoc yn gyfle arbennig i bobl ifanc o ysgolion ar draws Gogledd Cymru ddatblygu eu dealltwriaeth o fyd busnes, dysgu sgiliau newydd a mwynhau eu hunain. Mae鈥檙 fenter yn cyd-fynd 芒鈥檔 hamcanion cymunedol ac yn rhoi鈥檙 cyfle i ddisgyblion ddefnyddio eu haddysg yn yr ysgol mewn sefyllfa ariannol hynod realistig, mewn modd newydd a ffres.鈥
Ychwanegodd Meinir Llwyd o Ysgol Busnes 黑料不打烊: 鈥淵m Mhrifysgol 黑料不打烊, credwn ei fod yn hanfodol i ffocysu ar ddatblygu cymwysterau a sgiliau ein pobl ifanc, er mwyn sicrhau y sgiliau priodol i fanteisio ar gyfleon gwaith nawr ac yn y dyfodol. Mae mentrau megis Sialens y Farchnad Stoc yn rhoi cyfle i ni gyflwyno鈥檙 brifysgol i bobl ifanc, tra鈥檔 cynorthwyo鈥檙 cenhedlaeth nesaf o arweinwyr byd busnes i ystyried cymhwyster gwerthfawr mewn cyllid, bancio neu gyfrifeg.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2011