Ysgolion lleol yn rhannu 鈥楽traeon Coll鈥 黑料不打烊 mewn gorymdaith syrcas
Radio art deco 3D yn cael ei greuBydd pum ysgol leol yn dod at ei gilydd mewn gorymdaith liwgar drwy Stryd Fawr 黑料不打烊 am 1pm, ddydd Iau 20 Gorffennaf wrth i Pontio agor eu Gwledd Syrcas 2017, sef pob math o weithgareddau syrcas gyfoes dros 9 diwrnod ar ddechrau gwyliau鈥檙 haf.
Thema鈥檙 orymdaith syrcas y flwyddyn hon yw 鈥楽traeon Coll 黑料不打烊鈥, a bydd pum ysgol leol yn adrodd y straeon hyn drwy gelf wedi ei greu yn arbennig ar gyfer yr orymdaith. Bydd Ysgol Hirael, Ysgol Glancegin, Ysgol Glanadda, Ysgol Llandygai ac Ysgol y Felinheli yn cymryd rhan. Mae Mared Huws, Cydlynydd Datblygu'r Celfyddydau Pontio wedi cydweithio 芒 chwmni syrcas Cimera i gydlynu鈥檙 orymdaith. Hefyd yn cymryd rhan bydd Codi鈥檙 To ac aelodau o Circolombia, cwmni syrcas sy鈥檔 dod yr holl ffordd o Fogota, Colombia i Fangor, fydd yn perfformio eu sioe 鈥楢celere鈥 chwe gwaith yn Theatr Bryn Terfel rhwng 21-23 Gorffennaf.
Mae鈥檙 pump 鈥榮tori goll鈥 fydd yn cael eu hadrodd fel rhan o鈥檙 orymdaith yn cynnwys hanes Owain Glynd诺r yn cyfarfod 芒 Harry Hotspur a鈥檙 Arglwydd Mortimer ym Mangor cyn eu hymgais i gipio鈥檙 goron 鈥 cyfarfod a gyfeirir ato yn Henry IV gan Shakespeare 鈥 gaiff ei gyflwyno gan Ysgol Hirael. Bydd Ysgol Glancegin a phroject Codi鈥檙 To yn cynrychioli ymweliad The Beatles 芒 黑料不打烊 pan ddaethant i wrando ar y Maharishi Mahesh Yogi yn 1967, gyda llong danfor felen 3D anferth. Mae Ysgol Glanadda wedi creu eliffant enfawr sy鈥檔 cynrychioli鈥檙 eliffant a adawyd ym Mangor wedi iddo farw yn ystod ymweliad gan gwmni syrcas. Yr ardd binafal yng Nghastell Penrhyn fydd yn cael ei gyfleu gan Ysgol Llandygai, a blannwyd i atgoffa鈥檙 teulu o鈥檜 hamser yn y Carib卯, tra bydd Ysgol Felinheli yn cario radio art deco 3D sy鈥檔 dwyn i gof y BBC yn symud i Fangor yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Bydd Storiel hefyd yn arddangos gwrthrychau sydd ynghlwm 芒 them芒u'r orymdaith yn eu cistiau cymunedol fel rhan o鈥檙 .Os oes ganddoch unrhyw wrthrychau eraill sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 straeon hyn, byddai Pontio a Storiel wrth eu boddau鈥檔 clywed ganddoch chi.
Dywedodd Mared Huws, 鈥Mae鈥檔 bleser gennym weithio gydag ysgolion lleol ar y project hwn, fydd yn agor Gwledd Syrcas Pontio mewn steil! Hoffwn ddiolch i Kate Jones ac Iago Morgan Jones o Cimera sydd wedi bod yn arwain ar greu鈥檙 gwaith celf yn yr ysgolion, a hefyd Llio Hughes, Manon Dafydd a Sioned Young ein tiwtoriaid BLAS dan hyfforddiant. Gyda gwyliau鈥檙 haf ar y gorwel, mae hyn wedi bod yn ffordd hwyliog o gyflwyno rhai o straeon y ddinas i ysgolion y fro a pa ffordd well o ddechrau鈥檙 gwyliau na gyda gorymdaith syrcas liwgar drwy Fangor?鈥
Bydd yr orymdaith, fydd yn cynnwys sgiliau syrcas a cherddoriaeth, yn cychwyn o Pontio am tua 1pm cyn mynd heibio Maes Parcio Glanrafon, ar draws gerddi鈥檙 Gadeirlan a fyny at y cloc, lawr y Stryd Fawr at y Gadeirlan a n么l i Pontio. Bydd y gwaith celf yn cael ei osod yn Pontio a鈥檌 arddangos am weddill yr wythnos. Mae busnesau ar y Stryd fawr yn cael eu hannog i fod yn rhan o鈥檙 Wledd Syrcas drwy rannu gwybodaeth, arddangos posteri a gwisgo eu ffenestri gyd 鈥榯ag鈥 arbennig wedi ei greu ar gyfer yr achlysur.
Bydd y Wledd Syrcas ymlaen o 18-27 Gorffennaf ac yn cynnwys chwe pherfformiad o鈥檙 brif sioe gan Circolombia yn Theatr Bryn Terfel, gweithdai, perfformiadau am ddim tu mewn a thu allan, ffilmiau syrcas, digwyddiadau rhannu, cerddoriaeth a bwyd a diod. Cymerwch gip ar y rhaglen lawn yma neu helpwch eich hun i gopi o鈥檙 pecyn Gwledd Syrcas o Pontio.
Mae Gwledd Syrcas Pontio yn bosibl oherwydd cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol, Cyngor Gwynedd a Phrifysgol 黑料不打烊.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017