Ysgoloriaeth ar gyfer barddoni
Mae uwch-ddarlithydd o Fangor wedi derbyn Ysgoloriaeth i gael cwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth.
Cyhoeddwyd bod Dr Jason Walford Davies, o Ysgol y Gymraeg, yn un o鈥檙 awduron newydd fydd yn derbyn ysgoloriaeth gan Lenyddiaeth Cymru eleni.
Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd gwerth 拢4,000 yn caniat谩u i Jason Walford Davies gymryd peth amser i ffwrdd o'i waith academaidd er mwyn canolbwyntio ar ei farddoniaeth.
Mae eisoes yn Brifardd, wedi iddo ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 gyda鈥檌 bryddest 鈥楨gni鈥, cerdd sy鈥檔 coff谩u Streic y Glowyr yn yr wythdegau.
Dywedodd Jason ei fod yn edrych ymlaen at y cyfle i orffen ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, a fydd yn cynnwys nifer o gerddi sy'n ymateb i weithiau celf a ffotograffau.
鈥淢ae ysgrifennu creadigol yn rhan bwysig o broffil ac arlwy Ysgol y Gymraeg ym Mangor,鈥 meddai Jason. 鈥淏ydd yr ysgoloeriaeth yn golygu y bydd modd imi ganolbwyntio ar nifer o gerddi estynedig, a chyhoeddi'r gyfrol ryw ben yn 2013.鈥
O ran ymchwil, prif ddiddordebau Jason Walford Davies yw llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a鈥檙 ugeinfed ganrif, a Ll锚n Cymru yn Saesneg. Cyhoeddodd yn helaeth ar waith R. S. Thomas, ac mae鈥檔 Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R. S. Thomas ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012