Ysgoloriaeth ymchwil gyntaf dathlu canmlwyddiant a chwarter Prifysgol 黑料不打烊 yn cael ei chwblhau.
Yn ddiweddar fe wnaeth Marco Giudici, 29, o Filan, gwblhau ei ysgoloriaeth ymchwil mewn Hanes. Marco, sy'n awr yn byw yn Hitchin, Swydd Hertford, yw'r cyntaf i gwblhau un o'r ysgoloriaethau ymchwil a roddwyd ar achlysur dathlu canmlwyddiant a chwarter Prifysgol 黑料不打烊.
Mae'r ysgoloriaethau arbennig hyn yn rhan o raglen y Brifysgol i ehangu ei darpariaeth 么l-radd. Eu nod yw denu myfyrwyr neilltuol o dda sy鈥檔 dymuno astudio yn y Brifysgol rymus hon sydd 芒 phwyslais ar ymchwil.
Mae鈥檙 Ysgoloriaethau Dathlu yn cynnwys efrydiaethau PhD tair blynedd fydd yn cynnwys y ffioedd, t芒l blynyddol a lwfans ymchwil, a bwrsariaethau PhD tair blynedd fydd yn cynnwys t芒l blynyddol i fyfyrwyr disglair o'r DU/UE a Rhyngwladol.
Meddai Marco, a gafodd ei radd gyntaf o'r Universit脿 Cattolica del Sacro Cuore ym Milan ac a aeth ymlaen i gael MA o'r Universit脿 degli Studi di Milano: "Roedd astudio am PhD ym Mangor yn brofiad gwych. Roeddwn nid yn unig yn cael cyfle i ganolbwyntio ar wneud ymchwil - rhywbeth rydw i'n wirioneddol ei fwynhau, ond cefais gyfle hefyd i ddysgu seminarau i israddedigion a hyd yn oed roi ychydig ddarlithoedd, oedd yn brofiad arbennig iawn.
Cefais bob cefnogaeth a chymorth gan fy ngoruchwyliwr a'm cyd-oruchwyliwr. Fe wnaethant hyd yn oed roi cyfle i mi drefnu'r gynhadledd gyntaf ar ymfudo ac ethnigrwydd yn y gwledydd Celtaidd! Hefyd fe wnes i fwynhau gweithio gyda staff dysgu'r Ysgol Hanes a dwi'n teimlo fy mod wedi dysgu llawer oddi wrthynt o ran sgiliau addysgu.
Yr uchafbwynt oedd cyfarfod 芒'm darpar wraig a byddwn yn priodi ym Mehefin! Oni bai am ysgoloriaeth y dathlu fyddwn i erioed wedi dod i Fangor a fyddwn i ddim wedi'i chyfarfod hi!
Yn ail, fe wnes i wirioneddol fwynhau teithio i wneud ymchwil a mynd i gynadleddau. Roeddwn yn ddigon ffodus i dderbyn grant costau ymchwil hael (ar ben fy ysgoloriaeth) i'w defnyddio i dalu costau teithio'n gysylltiedig 芒 fy ymchwil. Cefais gyfle i dreulio amser mewn archifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd ar draws Prydain a'r Eidal, yn amrywio o'r Archifau Cenedlaethol yn Llundain i archifau plwyf bychan ym Mynyddoedd Appennini ardal Emilia-Romagna. Hefyd traddodais bapurau mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol mewn mannau cyn belled 芒 Clermont-Ferrand a Philadelphia.
Wrth s么n am y dyfodol, ychwanegodd: "Dwi'n gobeithio parhau efo'r hyn dwi'n fwynhau fwyaf: ymchwilio a dysgu. Fodd bynnag, dwi hefyd yn fodlon gwneud rhywbeth o werth i'r gymuned dwi'n byw ynddi. Fe hoffwn gymryd rhan mewn projectau estyn allan ac ymwneud 芒'r cyhoedd, mewn addysg uwch, dysgu gydol oes neu yn y sector treftadaeth. Rydw i newydd ddechrau gwirfoddoli i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a byddaf yn dechrau darlithio i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr fis Medi.
Meddai Dr Andrew Edwards, goruchwyliwr Marco: "Fe wnaeth Marco, sy'n hanu o Milan, ymuno 芒 ni ym mis Hydref 2009. Enillodd un o ysgoloriaethau PhD dathlu'r canmlwyddiant a chwarter a oedd yn cael eu cynnig gan Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, i wneud ymchwil ar fewnfudo o'r Eidal i Gymru yn y cyfnod ar 么l 1945.
鈥淢ae cwblhau PhD mewn Hanes mewn tair blynedd yn gamp eithriadol, a dwi'n hynod falch mai ef ydi'r myfyriwr cyntaf i gwblhau un o ysgoloriaethau'r canmlwyddiant a chwarter yn llwyddiannus.
Mae Marco eisoes wedi cyhoeddi peth o'i ymchwil, a dwi'n sicr y bydd ei fonograff sydd i ymddangos yn fuan, ac sy'n seiliedig ar ei PhD, yn gyfraniad pwysig i'n dealltwriaeth o hanes Cymru ar 么l y rhyfel.
Mae llwyddiant Marco'n dangos yn glir werth yr ysgoloriaethau yma i'r Brifysgol ac i'r gymuned academaidd ehangach."
Meddai'r Athro Joanne Rycroft-Malone, Cyfarwyddwr Ymchwil ym Mhrifysgol 黑料不打烊:
鈥淢ae鈥檙 cynllun Ysgoloriaethau newydd yn rhoi cyfle i鈥檙 goreuon o blith y myfyrwyr, yn genedlaethol a rhyngwladol, weithio gydag academyddion mwyaf blaenllaw a s锚r newydd y Brifysgol. Mae鈥檙 buddsoddiad yma mewn ysgoloriaethau ymchwil yn rhan o鈥檔 strategaeth i feithrin rhagoriaeth a gallu mewn ymchwil, ac i gryfhau ymhellach ein hamgylchedd ymchwil dynamig.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2013