 
    Rhagolwg
Cyflwyniad
Yn enedigol o Ynys M么n, deuthum i Brifysgol 黑料不打烊 yn 2009 i astudio am radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol. Wedi graddio yn 2012, cwblheais MA mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol, cyn ymgymryd 芒 phrosiect PhD ar y cyd rhwng Ysgol Athroniaeth a Chrefydd ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol 黑料不打烊, dan nawdd yr AHRC. Yn dilyn hynny, fe鈥檓 penodwyd yn Ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd.
Ymchwil Academaidd
Roedd fy ymchwil doethurol yn archwilio ymatebion crefyddol y Cymry yn yr Unol Daleithiau i fater caethwasiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd ffrwyth yr ymchwil ar ffurf monograff yn 2022: 鈥楳ae鈥檙 Beibl o鈥檔 tu鈥: ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868) (Gwasg Prifysgol Cymru).
Fel y dengys testun fy PhD, mae fy niddordebau academaidd yn eang ac yn rhyngddisgyblaethol, ac yn cynnwys: astudiaethau Beiblaidd; derbyniad y Beibl mewn hanes a鈥檌 r么l mewn materion cyfoes; crefydd, llenyddiaeth a chymdeithas; hanes caethwasiaeth a moeseg; Iddewiaeth a Christnogaeth, a鈥檜 deialog ryng-grefyddol; Siciaeth a Chonffiwsiaeth; Ecoleg a Chrefydd; Athroniaeth Hynafol; Problem Drygioni; Anghydffurfiaeth Gymreig a鈥檙 Cymry yn America; diwylliant print y bedwaredd ganrif ar bymtheg; a r么l crefydd yn cynnal hunaniaeth ethnig a chenedlaetholgar mewn cymunedau gwasgaredig.
Rydw i'n parhau i archwilio caethwasiaeth a chrefydd, ac yn ymchwilio i agweddau penodol ar Seioniaeth fodern ar hyn o bryd.
O鈥檙 herwydd, mae鈥檙 modiwlau rydw i鈥檔 eu haddysgu鈥檔 amrywiol ac yn cynnwys moeseg, Iddewiaeth a Christnogaeth, a r么l crefydd mewn materion ecolegol cyfoes.
Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru
Ym mis Hydref 2022, fe'm penodwyd yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru gyda Dr Joshua Andrews. Bwriad y Ganolfan ydi gofalu bod Addysg Grefyddol, Moeseg, Athroniaeth a Gwerthoedd fel meysydd pwnc mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn cael eu diogelu. Byddem yn cydweithio ag athrawon, grwpiau CYSAG, mudiad RE Hubs UK, a mudiadau ffydd er mwyn datblygu'r addysg sy'n bod a dangos perthnasedd y pwnc eithriadol bwysig ac amserol yma i'n cymdeithas amlgrefyddol, amlddiwylliannol ac amlsyniadaethol.
Gwaith Creadigol
Rydw i hefyd yn ysgrifennu鈥檔 greadigol ac ym mis Hydref 2018,听cyhoeddais nofel yn darlunio profiadau鈥檙 Iddewon yn ystod yr Holocost, Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn). Cafodd Eira Llwyd ei enwi'n Llyfr y Mis ar gyfer mis Tachwedd 2018 gan Gyngor Llyfrau Cymru. Yn 2023, cyhoeddir nofel gennyf, Y Cylch (Gwasg y Bwthyn), sy鈥檔 archwilio鈥檙 modd y darlunnir gwrachod yn ein cymdeithas heddiw.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, b没m yn hynod ffodus o ennill y Fedal Ddrama am fy nrama听Adar Papur, a chynhyrchwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2020; ac yn Eisteddfod Genedlaethol AmGen 2021, deuthum yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama am fy nrama,听Cadi Ffan a Jan, a oedd yn archwilio ystrydebau gender yn y Gymru gyfoes.听
Yng ngwanwyn 2022, aeth drama roeddwn wedi鈥檌 sgriptio,听Ynys Alys听(Cwmni'r Fr芒n Wen), ar daith o amgylch Cymru.
Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddwyd cyfrol a olygais, sef y flodeugerdd o lenyddiaeth LHDTC+ Gymraeg gyntaf sy'n cynnwys gwaith gonest a grymus 42 llenor gwahanol: Curiadau听(Barddas).
Yn 2025, dyfarnwyd gwobr Dewis y Darllenwyr yng Ngwobrau Tir na-nOg i fy nghyfrol gyntaf i blant,听Llanddafad (Y Lolfa, 2024).
Gwybodaeth Cyswllt
Swydd:听听 Darlithydd
Ebost:听听 听 g.evans-jones@bangor.ac.uk
Lleoliad:听M11a, Prif Adeilad y Celfyddydau
Addysgu ac Arolygiaeth
- Moeseg: Agweddau Crefyddol
- Cyflwyniad i Gristnogaeth
- Cyflwyniad i Athroniaeth Hynafol
- Gwrth-Semitiaeth
- Natur a Chrefydd y Gorllewin
- Crefydd, Cenedligrwydd a Rhywioldeb
- Yr Holocost: Ymatebion Crefyddol ac Athronyddol
- Crefydd yng Nghymru: O Baganiaeth i Jediiaeth
- Iddewiaeth yn y Byd Modern
- Problem Drygioni
- Y Gaethfasnach Drawsatlantig
- Athroniaeth Crefydd yn yr 20fed Ganrif
- Myth a Moeseg
- Astudiaeth Annibynnol
- Traethawd Hir
Cyfarwyddo MA/MRes
- Yn cyfarwyddo prosiectau MRes ym meysydd astudiaethau crefyddol ac athroniaeth.
Cyfarwyddo PhD
- Yn cyfarwyddo prosiectau'n cynnwys rhai am Heraclitus, a llenyddiaeth ffantasi.
- Yn fodlon cyfarwyddo prosiectau PhD ym meysydd astudiaethau crefyddol, llenyddiaeth a chrefydd, a chaethwasiaeth, crefydd a chymdeithas.
Diddordebau Ymchwil
- Y Beibl a chaethwasiaeth.
- Caethwasiaeth a chrefydd.
- Anghydffurfiaeth Gymreig a diwylliant print crefyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
- Iddewiaeth a Christnogaeth a鈥檜 deialog ryng-grefyddol.
- Seioniaeth, Iddewiaeth, a Christnogaeth.
- Llenyddiaeth a Chrefydd.
- Paganiaeth.
Cyfleoedd Project 脭l-radd
鈥橰ydwyf yn fodlon goruchwylio cwrs PhD
Cyhoeddiadau
2025
- Cyhoeddwyd
 Dafydd, E. (Golygydd) & Evans-Jones, G. (Golygydd), 1 Chwef 2025, Y Lolfa.
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad 鈥 Llyfr 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
2024
- Cyhoeddwyd
 Huskinson, L., Evans-Jones, G. (Cyfrannwr) & Andrews, J. (Cyfrannwr), 2 Ebr 2024, 24 t.
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad 鈥 Adoddiad Arall
- Cyhoeddwyd
 Huskinson, L., Andrews, J. (Cyfrannwr) & Evans-Jones, G. (Cyfrannwr), 2 Ebr 2024, 23 t.
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad 鈥 Adoddiad Arall
2023
- Cyhoeddwyd
 Evans-Jones, G., 4 Awst 2023, 1af gol. Llandysul: Cyhoeddiadau Barddas. 136 t.
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad 鈥 Llyfr 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
2022
- Cyhoeddwyd
 Evans-Jones, G. & Fowler, O. (Darlunydd), 5 Awst 2022, Y Lolfa. 112 t.
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad 鈥 Llyfr 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Evans-Jones, G., 1 Rhag 2022, Yn: Ll锚n Cymru. 45, 1, t. 162-196 35 t., 5.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn 鈥 Erthygl 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G. & Jones, A. L. (Golygydd), Medi 2022, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 368 t. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad 鈥 Llyfr 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 15 Gorff 2022, 1 gol. Caerdydd: University of Wales Press. 354 t. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad 鈥 Llyfr 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
2019
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 1 Maw 2019, Yn: Gwerrdon. 28, t. 21-42 21 t., 2.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn 鈥 Erthygl 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 22 Gorff 2019.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd 鈥 Papur 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 15 Tach 2019.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd 鈥 Papur 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
2018
- Cyhoeddwyd
 Evans-Jones, G., 1 Hyd 2018, Cyntaf gol. Caernarfon: Gwasg y Bwthyn. 104 t.
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad 鈥 Llyfr 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 6 Mai 2018
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall 鈥 Cyfraniad Arall 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 29 Ion 2018.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd 鈥 Papur
2017
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 26 Chwef 2017
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall 鈥 Cyfraniad Arall
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 12 Gorff 2017.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd 鈥 Papur 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 1 Maw 2017, Yn: Gwerddon. 23, t. 58-84 3.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn 鈥 Erthygl 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
2016
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 10 Meh 2016.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd 鈥 Papur 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 10 Medi 2016.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd 鈥 Papur 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 1 Hyd 2016, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, Volume XXXV: 2015. 1af gol. Cambridge, MA: Harvard University Press, Cyfrol 35. t. 109-128
 Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd 鈥 Pennod 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
2015
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 11 Hyd 2015.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd 鈥 Papur 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 25 Meh 2015.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd 鈥 Papur 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
2014
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G., 1 Awst 2014, Yn: Tu Chwith. 40, t. 83-91
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn 鈥 Erthygl 鈥 adolygiad gan gymheiriaid
Gweithgareddau
2025
- Cwrs yn trafod canmlwyddiant Plaid Cymru. Papurau gan Marged Tudur, Gareth Evans-Jones a Mari Elin Wiliam gyda chyfweliad hanes llafar rhwng Nia Thomas (BBC) a chyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones. - 21 Meh 2025 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr)
2024
- Sgwrs yn Palas Print, Caernarfon. - 30 Medi 2024 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
2023
- Cadeirio lansiad y gyfrol Curiadau gan Gareth Evans Jones (gol.) - 10 Tach 2023 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr)
- Darlleniad yn lansiad Y Cylch gan Gareth Evans Jones - 31 Hyd 2023 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr)
- Sgwrs am gyfraniad a gwaddol y pregethwr a'r diwinydd trawiadol, John Elias. - 18 Medi 2023 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- Ym mhabell Prifysgol 黑料不打烊 yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cynhaliwyd yr olaf o sgyrsiau cyfres 'Hunaniaethau: Cymreictod' a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Thema'r sesiwn oedd Cymreictod yn y Celfyddydau Cwiyr a chafwyd trafodaeth eithriadol ddiddorol gyda thri ymarferydd creadigol cwiyr: Osian Gwynn (Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Pontio), Leo Drayton (bardd, llenor, dramodydd a pherfformiwr), a Megan Lloyd (cydlynydd Trac Cymru, bardd a pherfformiwr). - 10 Awst 2023 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - G诺yl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
- Ddydd Mercher 9 Awst, cynhaliwyd lansiad ym mhabell Paned o Ge yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cadeiriais y sesiwn eithriadol ddiddorol a chael cyfle i holi amryw o'r cyfranwyr: Melda Lois Griffiths, Gruffydd Sion Ywain (dylunydd y gyfrol), Bethany Celyn (Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas), Elgan Rhys, Leo Drayton a Bethan Marlow. - 9 Awst 2023 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - G诺yl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
- Sgwrs gyda Sian Melangell Dafydd am wrachod hanesyddol a chyfoes, a'r hyn mae 'gwrach', 'gwrachyddiaeth' a 'gwrachaidd' yn ei olygu. - 7 Awst 2023 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - G诺yl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
- Cefais y cyfle i gadeirio sesiwn drafod ym Mhabell Len Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd am gynrychiolaeth LHDTC+ mewn llyfrau a gyhoeddwyd yng Nghymru ers 2000. Aelodau'r panel oedd Lois Gwenllian, Nia Wyn Jones, Llyr Titus, a Dylan Huw. - 7 Awst 2023 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - G诺yl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
- Cynhaliwyd lansiad cyfrwng Cymraeg Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ym mhabell Prifysgol 黑料不打烊 yn Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd 2023. Rhoddodd Joshua Andrews a minnau gyflwyniad i'r Ganolfan fel ei chyd-gyfarwyddwyr. Cafwyd cyfraniadau diddorol iawn gan Emilia Johnson, Daniel Latham, Modlen Lynch, a Natasha Roberts, ynghyd a sgwrs ddifyr iawn gyda Kristoffer Hughes, Prif Dderwydd Urdd Ynys Mon. Cawsom gyhoeddi hefyd mai Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, fydd Cymrawd Anrhydeddus cyntaf y Ganolfan. - 6 Awst 2023 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr)
- Aelod o banel trafod dan gadeiryddiaeth Iolo Cheung ynghylch a oes digon o gynrychiolaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg. Aelodau eraill y panel oedd Malachy Edwards, Sioned Erin Hughes, Simon Chandler, Elen Wyn a Simon Brooks. - 6 Awst 2023 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr)
- Rhoddais sgwrs am fy nghyfrol, 'Cylchu Cymru', yn rhan o brifwyl Dolgellau. - 22 Gorff 2023 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - G诺yl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
- Sesiwn drafod arfer a diwylliant drag yn y Gymraeg. Cefais y cyfle i holi'r frenhines drag, Biwti, trafod fy nrama, 'Cadi Ffan a Jan', ac ystyried pa agweddau athronyddol ar berfformio drag sy'n eu hamlygu eu hunain, gan gynnwys rhyddid mynegiant, herio rhagdybiaethau cul, daliadau am rywedd a rolau penodol. Cynahliwyd y sgwrs hon yn stondin Prifysgol 黑料不打烊. - 16 Gorff 2023 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - G诺yl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
2021
- Cadeirio Panel Trafod am 'Granogwen a Prosser Rhys' - 24 Meh 2021 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- 24 Maw 2021 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- 24 Maw 2021 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2020
- 1 Tach 2020 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- 20 Hyd 2020 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- 30 Awst 2020 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- 15 Gorff 2020 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- 5 Gorff 2020 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- Cyflwyno Papur am yr Holocost a'r X-Men - 1 Gorff 2020 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
- 17 Meh 2020 鈥 22 Gorff 2020 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
- Cynhadledd Adolygu ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch Hanes. Trafodais yr Almaen adeg yr Ail Ryfel Byd yn y bore ac yna Hawliau Dynol yn y prynhawn. - 28 Chwef 2020 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
- 6 Chwef 2020 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- Sgwrs am y broses greadigol mewn cyfryngau gwahanol. - 22 Ion 2020 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2019
- Sgwrs am John Gwilym Jones ac etifeddiaeth ar raglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru. - 17 Tach 2019 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
- Sgwrs drwy wahoddiad yn ystod noson a drefnwyd gan bwyllgor Eisteddfod Marianglas i ddathlu llwyddiant Dr Gareth Evans-Jones, Prif Ddramodydd Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 2019 - 3 Hyd 2019 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Prif siaradwr)
- Cyflwyno Papur: 鈥業 ddwyn y gaethglud fawr yn rhydd鈥: Cysyniadau Beiblaidd a Diddymiaeth y Cymry Americanaidd. - 22 Gorff 2019 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
- Sgwrs 芒 Merched y Wawr Porthaethwy am lenydda mewn gwahanol gyfryngau. - 20 Chwef 2019 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- Sgwrs am y Cymry yn yr Unol Daleithiau ynghylch caethwasiaeth y 19eg ganrif. - 28 Ion 2019 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2018
- Trafodaeth am dri Chymro a deithiodd i America a'u gweithgareddau llenyddol, gweinidogaethol, a gwleidyddol, yn enwedig yng nghyd-destun caethwasiaeth. - 14 Rhag 2018 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- Cyfweliad gyda Newyddion 9 am brosiect o'r enw Ail-Gysylltu/RE-Connect a fydd yn cynorthwyo athrawon a disgyblion wrth astudio Addysg Grefyddol ar lefel Safon Uwch, ac yn annog myfyrwyr i ystyried gyrfa fel athro/athrawes Addysg Grefyddol - 12 Tach 2018 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
- Sgwrs a gyflwynwyd i Gymdeithas Hanes y Tair Llan, Llanwnda, Gwynedd. - 9 Tach 2018 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- Darlleniad yn lansiad y gyfrol Eira Llwyd gan Gareth Evans Jones (Gwasg y Bwthyn), yn Pontio, 黑料不打烊 - 18 Hyd 2018 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
- 22 Medi 2018 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- Cyflwyno papur: 'Dyn v. Duw: Cyfraith y Caeth Ffoedig a Gwasg Gymraeg America' - 26 Gorff 2018 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
- Cyflwyno seminar: 鈥楧iwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn y Brifysgol鈥. - 28 Meh 2018 鈥 29 Meh 2018 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - G诺yl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
- Cyflwyniad am astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol - 12 Meh 2018 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
- Sgwrs ar Raglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru: 'Golygyddion Cymraeg America a Chaethwasiaeth' - 6 Mai 2018 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
- Cyflwyniad am bwysigrwydd astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol. - 1 Chwef 2018 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
- Sgwrs wadd gyda Chylch Llenyddol Bodffordd, Ynys M么n - 29 Ion 2018 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2017
- Cyflwyniad am bwysigrwydd astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol. - 6 Rhag 2017 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
- Cyflwyniad am bwysigrwydd astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol. - 24 Tach 2017 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
- Cyflwyniad am bwysigrwydd astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol. - 20 Tach 2017 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
- Un o gyfranwyr sesiwn goffa'r diweddar Sian Owen, Marian-glas yn y Babell L锚n, Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n 2017 - 7 Awst 2017 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu 芒'r cyhoedd a gwaith maes - G诺yl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
- Cyflwyno papur: 'In Exile: Welsh-Americans andAfrican-American Slaves (1838-1865)' - 12 Gorff 2017 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
- Sgwrs a gyflwynwyd yng Nghapel Paradwys, Llanallgo, Ynys M么n - 26 Chwef 2017 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
2016
- Cyflwyno papur: 鈥楾he 鈥淐hildren of Ham鈥 and the 鈥淩ace of Gomer鈥濃 - 10 Medi 2016 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
- Cyflwyno papur: 鈥樷淕weledigaeth鈥 y Bedyddiwr Cwsg: Treftadaeth lenyddol J. P. Harris (Ieuan Ddu)' - 10 Meh 2016 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
2015
- Cyflwyno papur: 'Y Cenhadwr and Y Dyngarwr: Two Welsh-American Abolitionist Journals? - 11 Hyd 2015 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
- Cyflwyno papur: 'Y Cenhadwr a'r Dyngarwr: Caethwasiaeth, Crefydd a'r Cymry yn America (1840-3)' - 26 Meh 2015 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
Gwybodaeth Arall
Dyletswyddau Gweinyddol
- Tiwtor Personol
- Swyddog Materion Cymraeg Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd
- Swyddog Cyfathrebu Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
- Swyddog Cenhadaeth Ddinesig Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
听
Cydnabyddiaethau/Llwyddiannau
- Ennill gwobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru 2023 am fy nghyfrol听Cylchu Cymru.
- Ennill Grant gan Gymdeithas Awduron Prydain i lunio cyfrol o l锚n feicro (2021).
- Ennill Gwobr Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Ngwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2019.
- Ennill Ysgoloriaeth Awdur Newydd听gan Lenyddiaeth Cymru i weithio ar nofel听(2017).
- Ennill Ysgoloriaeth Ieithoedd Celtaidd AHRC i gwblhau ymchwil y PhD (2014).
- Ennill Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen (2013).
- Ennill Ysgoloriaeth Mynediad i Radd Meistr (ATM) ar gyfer y cwrs MA (2012).
- Ennill Gwobr Dr John Robert Jones gan Brifysgol 黑料不打烊 am fod yn un o 鈥榝yfyrwyr gorau鈥檙 flwyddyn鈥 (2012).
- Ennill Gwobr Syr John Morris-Jones gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol 黑料不打烊 am ganlyniadau fy arholiadau gradd BA (2012).
- Ennill Gwobr Robert Richards gan Brifysgol 黑料不打烊 am ansawdd fy nhraethawd hir israddedig am bwnc yn ymwneud 芒鈥檙 Gyfraith, Astudiaethau Crefyddol neu Hanes (2012).
- Ennill Gwobr Thomas L. Jones gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol 黑料不打烊 am ganlyniadau arholiadau ail flwyddyn fy ngradd (2011).
- Ennill Gwobr R. T. Robinson gan Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol 黑料不打烊, am safon fy ngwaith yn ystod blwyddyn gyntaf fy nghwrs gradd (2010).
Aelodaeth
- Cymrawd Cydymaith Academi Addysg Uwch.
- Aelod o Gyngor Cristnogion ac Iddewon (CCJ).
- Aelod o Senedd Prifysgol 黑料不打烊.
Golygyddol
- Cyd-olygydd听Ysgrifau Beirniadol gyda Dr Elis Dafydd (Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd).