Yr Is-Ganghellor sy’n cadeirio Bwrdd Gweithredu y Brifysgol. Mae'r tîm yn cynnwys:
Yr Athro Edmund Burke
Is-Ganghellor
Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ
²Ñ²¹±ð’r Athro Burke wedi treulio ei holl yrfa ym maes addysg uwch ar drywydd rhagoriaeth academaidd. Mae wedi dal swyddi uwch ym Mhrifysgol Nottingham, Prifysgol Stirling, Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain yn ogystal, yn fwyaf diweddar, ag ym Mhrifysgol CaerlÅ·r. Mae ganddo broffil ymchwil rhyngwladol nodedig mewn Ymchwil Weithredol. Mae ei ymchwil yn ymwneud â methodolegau cefnogi penderfyniadau deallus mewn amgylcheddau cymhleth ar y rhyngwyneb rhwng cyfrifiadureg a mathemateg. Mae'n Gymrawd o'r Academi Beirianneg Frenhinol ac yn Llywydd y Gymdeithas Ymchwil Weithredol.
Fel arweinydd sefydliadol, mae wedi dangos gweledigaeth strategol ac effeithiolrwydd gweithredol drwy sbarduno mentrau newydd, rheoli rhaglenni newid cymhleth a chreu twf sylweddol a chynaliadwy.
Dirprwy Is-Ganghellor (Arweinyddiaeth Academaidd)
Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ
Dirprwy i’r Is-ganghellor a Phrofost: Yr Athro Andrew Edwards
Fel Dirprwy i’r Is-ganghellor a Phrofost, yr Athro Andrew Edwards yw dirprwy sefydlog yr Is-ganghellor a'r Llywydd, gan ddarparu arweinyddiaeth academaidd strategol ar draws tri choleg y Brifysgol.
Mae'n gyfrifol am broses gynllunio academaidd y Brifysgol gan gynnwys dyrannu adnoddau a chynllunio cyfalaf.
Mae gan y Dirprwy i’r Is-ganghellor hefyd gyfrifoldeb cyffredinol am berfformiad academaidd y Brifysgol trwy reolaeth llinell tri Dirprwy Is-ganghellor, tri Phennaeth Coleg ac Is-Brofostiaid. Mae'n dirprwyo dros yr Is-ganghellor pan fo angen.
Fel Cadeirydd Grŵp Cynllunio a Thrawsnewid y Brifysgol, mae'r Athro Edwards yn gweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Gweithredu, y Prif Swyddog Cyllid, y Prif Swyddog Cynllunio a'r Prif Swyddog Pobl i ddarparu arweinyddiaeth ar berfformiad strategol a gweithredol y Brifysgol.
Yn 2025, yr Athro Edwards oedd yr arweinydd ar ran y Bwrdd Gweithredol a’r Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer Project Adolygu ac Ailstrwythuro Academaidd y Brifysgol. Ef yw’r arweinydd gweithredol ar gyfer ymgysylltu ag undebau llafur y campws.
Yr Athro Edwards hefyd yw’r arweinydd gweithredol ar gyfer strategaeth fyd-eang y Brifysgol.
Mae'r Dirprwy i’r Is-ganghellor a Phrofost yn aelod o Fwrdd Gweithredol, Senedd a Chyngor y Brifysgol.
Cyn ei benodiad yn Ddirprwy i’r Is-ganghellor, roedd yr Athro Edwards yn Ddirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg, Ymgysylltu Dinesig, Partneriaethau Strategol a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (2020-24), ar ôl bod yn Ddeon a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes (2012-20). Yn y swyddogaethau hynny, dangosodd allu eithriadol i reoli portffolios amrywiol a chymhleth, gan fod yn llysgennad cadarnhaol ar ran y Brifysgol ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
Fel hanesydd, mae ymchwil yr Athro Edwards yn canolbwyntio ar newid gwleidyddol yng Nghymru a Phrydain ar ôl 1945, hanes datganoli yng Nghymru a newid cymdeithasol ym Mhrydain ar ôl y rhyfel. Dechreuodd ei yrfa academaidd fel cynorthwyydd ymchwil ar broject ymchwil mawr a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar Ddatganoli a Newid Cyfansoddiadol (2002-04), cyn cael ei benodi i Ddarlithyddiaeth mewn Hanes Modern. Dyfarnwyd Cadair Bersonol iddo yn 2015. ²Ñ²¹±ð’r Athro Edwards yn gymrawd ´Ç’r Royal Historical Society a’r Academi Addysg Uwch.
Ganwyd a magwyd yr Athro Edwards yng Nghaernarfon ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Mae hefyd yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, ar ôl cwblhau ei BA (1997), MA (1998) a PhD (2002) yn y Brifysgol.
Mr Michael Flanagan
Prid Swyddog Gweithredu
Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ
Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yw Mr Michael Flanagan
Mae gan Michael gyfrifoldeb strategol am arwain gwasanaeth proffesiynol cydlynol (gan gynnwys Canolfan Bedwyr, Gwasanaethau Digidol, Gwasanaethau Campws ac Ystadau, Adnoddau Dynol, Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu a Gwasanaethau Myfyrwyr), yn ogystal â chyfrifoldeb dros iechyd, diogelwch a rheoli argyfyngau a goruchwylio trwyddedau allweddol y Brifysgol.
Cymhwysodd Michael yn wreiddiol fel syrfëwr a bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Digidol ym Mhrifysgol Caerlŷr cyn symud i Fangor. Cyn hynny, bu'n aelod o dîm Gweithredol Prifysgol Greenwich, a chyn hynny’n gyfarwyddwr ac ymgynghorydd i’r London Legacy Development Corporation mewn perthynas â phrif gynllunio a hyfywedd ar gyfer blaenoriaethau adfywio maer Llundain. Bu’n arwain ar reoli ystadau a chyfleusterau Parc Olympaidd y Frenhines Elisabeth a’r stadiwm Olympaidd ac mae wedi arwain gwaith isadeiledd a digidol integredig gyda dau gyngor yn Llundain.
Mr Martyn Riddleston
Prif Swyddog Ariannol
Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ
Mr Martyn Riddleston yw’r Prif Swyddog Ariannol ac mae ganddo gyfrifoldeb strategol dros bob agwedd ar berfformiad, cynllunio a rheolaeth ariannol, datblygiad strategaeth ariannol y Brifysgol, goruchwyli´Ç’r strategaeth pensiynau, cynrychioli’r Brifysgol fel y cyflogwr mewn perthynas â Chynllun Pensiwn ac Aswiriant Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, y berthynas a banciau a rhoddwyr benthyg, goruchwyli´Ç’r strategaeth gaffael ac is-gwmnïau a chwmnïau cyd-fentr´Ç’r Brifysgol.
Cyn ymuno a Phrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, bu Martyn mewn swyddi uwch ym Mhrifysgol CaerlÅ·r lle roedd yn Brif Swyddog Cyllid ac yn Brif Swyddog Gweithredu.
Mae'n gyfrifydd siartredig a dechreuodd ei yrfa gyda KPMG yn gweithio gyda chleientiaid archwilio ac ar drafodion corfforaethol yn y DU ac Ewrop. Mae wedi gweithio yn y sector Addysg Uwch am dros 20 mlynedd.
Proffil Yr Athro Nichola Callow
Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr)
Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ
Yr Athro Nichola Callow yw’r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr).
Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros addysgu a dysgu, y profiad myfyrwyr, cyflogadwyedd myfyrwyr, gwneud cyfraniad academaidd i faes recriwtio myfyrwyr. Ar hyn o bryd mae hi'n aelod o Fwrdd yr ASA ac yn Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Strategol ASA Cymru.
Graddiodd gyda gradd BSc mewn Addysg Gorfforol a Seicoleg, TAR mewn Gweithgareddau Awyr Agored a Gwyddoniaeth a PhD mewn Seicoleg Chwaraeon o Brifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn 1991, 1992 a 2000. Derbyniodd Gadair Bersonol yn 2012.
Mae Nichola yn Seicolegydd Siartredig Cymdeithas Seicoleg Prydain ac yn aelod gweithgar a chyfrannol i Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elitaidd Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiad.Mae ganddi enw da yn rhyngwladol am ei hymchwil yn ymwneud â delweddaeth a pherfformiad chwaraeon, ac mae hefyd yn gwneud ymchwil ym meysydd arweinyddiaeth, dynameg grŵp a gwytnwch. Mae gwedd drawsfudol i'w hymchwil (theori i ymarfer) ar lefel elît a phroffesiynol.
Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil)
Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ
Yr Athro Paul Spencer yw’r Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil).
Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae gan Paul gyfrifoldeb strategol dros wella ansawdd ymchwil a pharatoi ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf, cynyddu incwm grantiau ymchwil a grantiau diwydiannol, cynnal ac adeiladu rhwydwaith ymchwil ddiwydiannol y Brifysgol, cynnal ac adeiladu rhwydweithiau partneriaethau ymchwil, portffolio arloesi’r Brifysgol, a Bargen Twf y Gogledd.
Derbyniodd Paul radd B.Sc. mewn Ffiseg Gymhwysol a gradd Ph.D. mewn Peirianneg Electronig o Brifysgol Caerfaddon yn 1990 a 1994. Bu'n gynorthwyydd ymchwil ar nifer o brosiectau ymchwil ag ariannwyd gan EPSRC ym Mhrifysgol Caerfaddon cyn symud i swydd darlithydd ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn 1996. Daeth yn Uwch Ddarlithydd yn 2003 a Derbyniodd Gadair Bersonol yn 2006. Yn 2007 fe’i penodwyd yn Bennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig, swydd a ddaliodd am saith mlynedd. Yn 2009 fe’i penodwyd yn Bennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol ac yn 2017 fe’i penodwyd yn Ddeon Coleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg.
Prif ddiddordebau ymchwil Paul yw deinameg laser lled-ddargludyddion, effeithiau adborth optegol, lluosogi curiadau, a phriodweddau tonnau optegol dyfeisiau optoelectroneg. Mae wedi bod yn awdur ar fwy na 100 o bapurau cyfnodolion a 140 o bapurau cynhadledd ac mae’n adolygwr rheolaidd o gyfnodolion archifol. Yn 2000 enillodd wobr peirianneg orau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (SET) ac mae hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg.
Yr Athro Enlli Thomas
Dirprwy Is-ganghellor (Yr Iaith Gymraeg, Diwylliant a’r Rhanbarth) / Pennaeth y Coleg (y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol)
Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ
Mae'r Athro Enlli Thomas yn flaenllaw ym maes ymchwil i'r Gymraeg, dwyieithrwydd ac addysg, ac ar hyn o bryd hi yw’r Dirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg, Diwylliant a'r Rhanbarth a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ.
Mae hi'n Athro Ymchwil Addysg, ac yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Umeå, Sweden. Ar hyn o bryd mae hi'n brif ymchwilydd ar brosiect ymchwil gwerth £761,000 a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n edrych ar weithredu'r prosiect Ein Llais Ni , sef prosiect gweithredu seiliedig ar ddylunio, fel rhaglen Dysgu Proffesiynol Cydweithredol i athrawon ledled Cymru.
Bu ganddi sawl swyddogaeth allweddol ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ. Symudodd ´Ç’r Ysgol Seicoleg i’r Ysgol Addysg yn 2007, ac yn ddiweddarach daeth yn Bennaeth yr Ysgol (Addysg a Datblygiad Dynol) yn 2014-2018. Mae hi hefyd wedi dal swyddi fel Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Addysgu a Dysgu (Cyfrwng Cymraeg) a Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros y Gymraeg cyn ymgymryd â'i swyddogaeth bresennol.
Y tu allan i'r brifysgol, mae hi ar hyn o bryd yn eistedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn Gadeirydd Bwrdd Academaidd y Coleg. Mae hi hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd Cynghori Arbenigol i'r Gweinidog Addysg, ar ôl gwasanaethu hefyd yn aelod o Gyngor Partneriaeth Y Gymraeg Llywodraeth Cymru – bwrdd cynghori arbenigol sy'n rhoi cyngor ac adborth i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.
Enillodd wobr fawreddog Medal Hugh Owen Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2019 am ymchwil addysgol ragorol yng Nghymru, a daeth yn Gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2023.
Mrs Tracy Hibbert
Prif Swyddog Pobl
Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ
Tracy Hibbert yw'r Prif Swyddog Pobl, ac mae ganddi gyfrifoldeb strategol am ddarparu cyngor, arweiniad ac arweinyddiaeth ar draws y brifysgol ar bob maes allweddol o fewn Adnoddau Dynol, gweithrediadau pobl, lles, datblygu sefydliadol, recriwtio a dal gafael ar staff, a darparu cyngor ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae Tracy yn aelod o Universities Human Resources (UHR) Cymru, sef y sefydliad proffesiynol i ymarferwyr Adnoddau Dynol yn y sector addysg uwch, ac mae wedi gwasanaethu ar Fwrdd Gweithredol cenedlaethol UHR. Tracy hefyd yw Cadeirydd yr Universities Advertising Group (consortiwm o brifysgolion sy’n gweithio gyda’i gilydd i gaffael hysbysebion recriwtio cost effeithiol ar gyfer y sector) ac mae’n aelod o Grŵp Mewnwelediadau yr Educational Competencies Consortium (ECC) – sef fforwm anffurfiol sy'n helpu i lunio sut mae ECC yn meddwl am wobrwyo, gwerthuso rolau, a heriau'r gweithlu Addysg Uwch/Addysg Bellach.
Mae gan Tracy brofiad helaeth o weithio yn y sector addysg uwch, a chyn hynny, bu’n gweithio i’r Swyddfa Gartref. Mae Tracy yn Gymrawd o'r CIPD (sef y corff proffesiynol ar gyfer Adnoddau Dynol)
Mrs Gwenan Hine
Ysgrifennydd y Brifysgol
Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ
Uwch Gymhorthydd Gweithredol i’r Dirprwy Is-Ganghellor ac Ysgrifennydd y Brifysgol / Swyddog Llywodraethu: Karen Williams karen.williams@bangor.ac.uk
Gwenan Hine yw Ysgrifennydd y Brifysgol ac mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros bob agwedd ar lywodraethiant y Brifysgol, gan gynnwys darparu cyngor, cefnogaeth a throsolwg strategol i’r Cyngor, y Senedd, y Llys, y Bwrdd Gweithredol ac Is-bwyllgorau’r Cyngor (Y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth, Y Pwyllgor Archwilio a Risg, Y Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu, Pwyllgor Materion y Gymraeg a’r Pwyllgor Pobl a Diwylliant)
Yn ogystal, mae Gwenan yn goruchwylio'r Gyfarwyddiaeth Llywodraethu, Cyfreithiol a Dinesig, sy'n cynnwys yr Archifau a Chasgliadau’r Amgueddfa, Canolfan Bedwyr, y Swyddfa Weithredol, Llywodraethu a Risg, Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio a Chelfyddydau Pontio ac Ymgysylltu Cymunedol. Mae Gwenan yn goruchwylio proses Graddau er Anrhydedd y Brifysgol, a'r Pwyllgor Enwebu Anrhydeddau Cenedlaethol.