AELODAETH O'R GAMPFA I FYFYRWYR SY'N BYW MEWN NEUADDAU
Aelodaeth am ddim o'r Gampfa i Breswylwyr
Os ydych yn fyfyriwr Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ sy'n byw yn Neuaddau'r Brifysgol, byddwch yn derbyn aelodaeth am ddim o'r gampfa pan fyddwch yn cychwyn yma. I roi hyn ar waith, cwblhewch y Rhaglen Hyfforddiant Ymsefydlu ar-lein. 24 awr ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd eich Cerdyn Myfyriwr yn rhoi mynediad i chi i Ganolfan Brailsford. Bydd preswylwyr sy'n byw ym mhentref myfyrwyr Y Santes Fair hefyd yn cael mynediad i'r gampfa ar y safle hwnnw. Byddwch angen eich Cerdyn Myfyriwr coch i gael mynediad i Ganolfan Brailsford a champfa'r Santes Fair.
Mewngofnodi i Archebu Lle yn ein Dosbarthiadau
I archebu lle yn ein dosbarthiadau a'n gweithgareddau, bydd angen i chi fewngofnodi i'r safle archebu. Byddwch angen eich manylion alffaniwmerig personol Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ e.e. Bra24ed i fewngofnodi.
AELODAETH O'R GAMPFA I FYFYRWYR SY'N BYW MEWN LLETY PREIFAT
Opsiynau Aelodaeth
Prynu Eich Aelodaeth
Gallwch brynu eich Aelodaeth:
- trwy ddod i Dderbynfa Canolfan Brailsford neu
- ein ffonio ar 01248 382 571 neu
- arlein - bydd angen mewngofnodi
Peidiwch ag anghofio mynd i'r llyfrgell i gasglu eich Cerdyn Myfyriwr coch, fydd y cerdyn yn rhoi mynediad i chi drwy'r giatiau yng Nghanolfan Brailsfod.
*Does dim angen i chi greu proffil campfa na chael cerdyn Actif.
Prynu Eich Aelodaeth Arlein
Mae’n bwysig dilyn y camau i sicrhau eich bod wedi ymaelodi yn iawn fel eich bod yn gallu defnyddio’r gampfa cyn gynted â phosib.
Ewch i'n gwefan taliadau, lle bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ e.e. Bra24ed. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, bydd dewiswch un o’r opsiynau aelodaeth. Ar ol talu, bydd angen cwblhau ein Rhaglen Hyfforddiant Ymsefydlu gorfodol.
*Does dim angen i chi greu proffil campfa na chael cherdyn Actif.