Gweithdy DPP CELT: Ysgrifennu deilliannau dysgu effeithiol
Siaradwr: Yr Athro Graham Bird
Trosolwg: Mae deilliannau dysgu (ar lefel modiwl a rhaglen) yn diffinio'r hyn y dylai eich myfyrwyr allu dangos eu bod yn gallu ei wneud er mwyn cwblhau a chael marc llwyddo mewn modiwl neu raglen. O ganlyniad, maent yn ddatganiadau sy'n ffurfio eich gweithgareddau addysgu ac asesu ar lefel modiwl a rhaglen. Maent hefyd yn ddatganiadau sy'n sicrhau bod deilliannau eich myfyrwyr yn cyd-fynd 芒 gofynion ar draws y sector a gofynion pwnc-benodol. Mae deilliannau dysgu effeithiol hefyd yn glir i fyfyrwyr ac yn cyfleu'n glir i fyfyrwyr beth sy鈥檔 rhaid iddynt ei wneud i'w cyflawni. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys rhywfaint o 'ddamcaniaeth' ond bydd yn canolbwyntio'n benodol ar sut i ddatblygu ac ysgrifennu deilliannau dysgu effeithiol, gan gynnwys awgrymiadau ymarferol a sut i osgoi camgymeriadau cyffredin.
Iaith y Sesiwn: Saesneg