Astudio ym Mhrifysgol 黑料不打烊
Yn ystod y Diwrnod Agored, bydd cyfle i fynychu Sgyrsiau Pwnc, gan roi鈥檙 cyfle i chi ddysgu mwy am gyrsiau a chyfadrannau penodol. Gwiriwch raglen y Diwrnod Agored am fanylion llawn y Sgyrsiau Pwnc fel y gallwch gynllunio ymlaen llaw a gwneud y mwyaf o鈥檆h ymweliad. Dyma鈥檙 cyfle perffaith i ofyn i staff am ofynion mynediad, cynnwys y cwrs, modiwlau a gyrfaoedd.
Bywyd Myfyrwyr ym Mhrifysgol 黑料不打烊
Mae 黑料不打烊 yn adnabyddus am ei chymuned glos, lle mae myfyrwyr yn cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae digon yn digwydd yma hefyd - o ymuno 芒 chlybiau, cymdeithasau a gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr i nosweithiau allan yn .
Yn y Diwrnod Agored, bydd myfyrwyr presennol wrth law i siarad 芒 chi am eu profiadau o fyw ac astudio ym Mangor.
Ein Llety Myfyrwyr
Rydym yn sicrhau llety Prifysgol i bob myfyriwr israddedig newydd, llawn-amser, gan gynnwys y rhai sy鈥檔 dod drwy Clirio.
Yn y Diwrnod Agored, gallwch fynychu鈥檙 Sgwrs Llety a chymryd Taith o鈥檙 Campws a鈥檙 Llety. Maent yn rhedeg drwy gydol y dydd, gan eich galluogi i weld y llety yn y ddau bentref myfyrwyr a dysgu mwy am fyw ym Mangor.
Cefnogi Ein Myfyrwyr
O鈥檙 eiliad y maent yn cyrraedd 黑料不打烊, bydd ganddynt rwydwaith eang o gefnogaeth. Dewch i siarad 芒 ni yn y Diwrnod Agored am sut y caiff eich plentyn eu cefnogi yn y Brifysgol.
Gallwch fynychu鈥檙 Cyflwyniad Cyllid i gael mwy o wybodaeth am ffioedd dysgu, ysgoloriaethau a bwrsariaethau. Yn Arddangosfa鈥檙 Diwrnod Agored, gallwch ddysgu mwy am:
- Gwasanaethau Myfyrwyr
- Cymorth iechyd meddwl a llesiant
- Gwasanaethau anabledd a chynhwysiant
- Ffioedd dysgu a chyllid myfyrwyr
- Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
Cwestiynau i'w Gofyn i Fyfyrwyr Presennol yn ystod y Diwrnod Agored
- Sut ydych chi鈥檔 cydbwyso eich astudiaethau gyda鈥檆h bywyd cymdeithasol?
- Faint o astudio annibynnol sy鈥檔 cael ei ddisgwyl o鈥檌 gymharu ag ysgol neu goleg?
- A ydych chi鈥檔 teimlo eich bod yn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer ar 么l y brifysgol?
- A ydych wedi cael cyfleoedd am brofiad gwaith, lleoliadau, neu swyddi rhan-amser?
- Pa mor hawdd oedd hi i ymgartrefu yn ystod eich wythnosau cyntaf?
- Beth helpodd chi i wneud ffrindiau pan gyrhaeddoch chi?
- Sut mae diwrnod neu wythnos nodweddiadol yn edrych i chi?
- Pa fathau o glybiau neu gymdeithasau sy鈥檔 boblogaidd?
- A yw鈥檔 hawdd cymryd rhan mewn gweithgareddau os nad ydych erioed wedi rhoi cynnig arnynt o鈥檙 blaen?
- Beth mae myfyrwyr fel arfer yn ei wneud yn eu hamser hamdden?
- A yw鈥檔 bosibl byw ar gyllideb myfyriwr yma?
- Beth yw鈥檙 costau annisgwyl mwyaf?
- Sut beth yw llety prifysgol mewn gwirionedd?
- Pa mor hawdd yw gwneud pethau fel coginio, golchi dillad a chyllidebu?
- A wnaethoch chi aros mewn neuaddau, ac a fyddech yn eu hargymell?
- A ydych chi鈥檔 teimlo鈥檔 ddiogel yn byw ac yn astudio ym Mangor?
- Sut ydych chi鈥檔 mynd o un lle i'r llall ar y campws a鈥檙 ddinas?
- A oes angen car yma?
- A yw鈥檔 hawdd teithio i Fangor ar dr锚n?
- I ble fyddech yn mynd pe byddech yn cael trafferth neu鈥檔 teimlo dan bwysau
- A yw myfyrwyr yn defnyddio鈥檙 gwasanaethau cymorth, ac a ydynt yn ddefnyddiol?
- Sut wnaethoch chi reoli hiraeth am adref (os gwnaethoch ei brofi)?