Athro Cymraeg yn cyrraedd rhestr fer Llyfr y flwyddyn
Mae cyfrol barddoniaeth gan Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018 yn y categori Barddoniaeth.
Cwblhaodd Peredur Lynch, Athro yn y Gymraeg yn Ysgol y Gymraeg, tra ar gyfnod sabothol yn Adran Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard.
Cafodd y gyfrol ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch ac y mae eisoes wedi derbyn adolygiadau gwresog mewn cylchgronau fel Barddas (鈥淸c]yfrol gwbwl arbennig鈥 - Alan Llwyd), Barn (鈥渁wen a hanner yw hon鈥 - Derec Llwyd Morgan) ac O鈥檙 Pedwar Gwynt (鈥渞hin cyfoethog hen win鈥 - Gruffydd Aled Williams).
Mae gan Dr Goronwy Wynne, Cymrawd er Anrhydedd o Brifysgol 黑料不打烊, ac wedi derbyn PhD o Ysgol y Gymraeg, ar y rhestr fer y categori Gwobr Ffeithiol Greadigol. Hefyd ar restr fer yr un categori, mae cyn-fyfyrwraig Ysgol y Gymraeg, Anne Elizabeth Williams gyda , gyda鈥檙 ddau lyfr wedi'u cyhoeddi gan Y Lolfa.
Hefyd ar y rhestr fer mae Dr Gwyneth Lewis, Cymrawd er Anrhydedd o Brifysgol 黑料不打烊 a Chynfardd Cenedlaethol Cymru; mae ei llyfr 'Treiglo' ar restr fer y categori Barddoniaeth.
Dyfernir Gwobr Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru, i鈥檙 gweithiau gorau yn y Gymraeg a鈥檙 Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr o fewn tri categori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.
Caiff enillwyr y gwobrau eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar nos Fawrth 26 Mehefin,
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2018