Cyfle i ddylunwyr ifanc arddangos eu gwaith
Elain Jones o Blwyddyn 12 Ysgol Eirias gyda'i lamp.Mewn menter newydd, mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi rhoi cyfle i ysgolion lleol ddangos gwaith gan eu dylunwyr gorau mewn Arddangosfa Dylunio a Thechnoleg arbennig.
Mae naw ysgol ar draws gogledd Cymru wedi manteisio ar y cyfle i ddangos enghreifftiau o waith gan eu dylunwyr ifanc sy鈥檔 astudio Dylunio a Thechnoleg, yn cynnwys Dylunio Cynnyrch ynghyd 芒 Thecstilau yng Nghyfnod Allweddol 3, TGAU, AS a lefel A. Dangosir y gwaith mewn arddangosfa dau ddiwrnod yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Eglurodd Peredur Williams, Darlithydd Dylunio a Thechnoleg yn yr Ysgol Addysg, sut daeth yr arddangosfa i fod:
鈥淒eilliodd yr Arddangosfa o鈥檔 cyfarfodydd rheolaidd gydag athrawon Dylunio a Thechnoleg yn yr ardal. Roeddent yn awyddus i roi llwyfan i鈥檙 gwaith dylunio a thechnoleg arbennig sy鈥檔 cael ei gynhyrchu gan eu disgyblion. Mae popeth sydd o鈥檔 cwmpas neu a ddefnyddiwn yn ein bywydau bob dydd wedi eu dylunio gan rywun yn rhywle. Mae Dylunio a Thechnoleg yn bwnc allweddol yng nghwricwlwm pob ysgol i sicrhau bod disgyblion yn datblygu mewn ffordd greadigol ac ymarferol. Rydym ni, yn yr Ysgol Addysg a Phrifysgol 黑料不打烊, yn falch o allu cynorthwyo i hyrwyddo鈥檙 pwnc ac arddangos y gwaith da sy鈥檔 cael ei wneud yn ein hysgolion lleol.鈥
William Passey o Ysgol Eirias yn gosod ei arddangosfa.Un disgybl a oedd yn cymryd rhan yn y sioe oedd Carys Matthews, 17 oed o Ysgol y Creuddyn. Mae Carys yn astudio Lefel A a bydd yn mynd i astudio graffeg yng Nghaerdydd yn ddiweddarach eleni.
鈥淢ae鈥檔 wych gallu gweld fy ngwaith fel rhan o鈥檙 sioe, mae鈥檔 newid y ffordd rydych yn gweld eich gwaith pan gaiff ei arddangos mewn lle fel hyn.鈥
Cynhelir yr arddangosfa yn y Bocs Gwyn yn Pontio rhwng 2.30-7.00 heddiw, dydd Gwener 16 Mehefin.
Dyma鈥檙 ysgolion sy鈥檔 cymryd rhan:
Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch;
Ysgol Uwchradd Caergybi;
Ysgol Botwnnog;
Ysgol Dyffryn Nantlle;
Ysgol Uwchradd Eirias;
Ysgol David Hughes;
Ysgol y Creuddyn;
Carys Matthews o Ysgol y Creuddyn gyda'i gwaith.Ysgol Dyffryn Nantlle
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017