Cyfle i ddysgu mwy am ymchwil newydd am yr awdures Kate Roberts
Bydd cyfle i ymwelwyr 芒 stondin Prifysgol 黑料不打烊 ddysgu mwy am waith a hanes bywyd "brenhines llenyddiaeth Cymru" yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Ar Ddydd Gwener, Awst 10fed, bydd Canolfan Treftadaeth Cae鈥檙 Gors, sef cartref genedigol Kate Roberts yn Rhosgadfan, yn cyflwyno dwy ddarlith, mewn cydweithrediad ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol 黑料不打烊.
Bydd y ddarlith gyntaf, Cymraeg y Ciari-dyms: chwilio am y gwirionedd ynghylch sefyllfa鈥檙 iaith yn hen aradal Kate, yn cael ei chyflwyno gan Gwenllian Williams ac yn delio gyda鈥檌 gwaith ymchwil am ddwyieithrwydd ac agweddau tuag at yr iaith Gymraeg yn ardal Dyffryn Nantlle. Bydd yn edrych ar y safbwyntiau a leisiwyd gan Kate Roberts ar y mater er mwyn ceisio dyfalu beth fyddai ei barn hi am y sefyllfa fodern.
Dywedodd Gwenllian, myfyrwriag Ol-radd yn Ysgol y Gymraeg: 鈥淓r nad ydi fy ngwaith ymchwil i yn ymwneud yn uniongyrchol 芒 Kate Roberts, mae鈥檔 ymwneud a鈥檙 ardal a鈥檙 gymdeithas a bobl a olygai cymaint iddi. Fel un o Ymddiriedolwyr Cae鈥檙 Gors, mae Kate yng nghefn fy meddwl drwy鈥檙 adeg, felly mae hi wedi bod yn hwyl rhoi lle mwy blaenllaw i鈥檞 llais wrth baratoi ar gyfer y cyflwyniad hwn a gosod fy ngwaith mewn cyd-destun mymryn gwahanol. Rydym fel Canolfan yn falch iawn bod gennym gymaint i鈥檞 ddysgu o hyd am fywyd a gwaith Kate Roberts. Golyga hynny nad yw ein gwaith yn y Ganolfan wedi dod i ben o bell ffordd!
Bydd Diane Jones, myfyrwraig PhD yn Ysgol y Gymraeg, hefyd yn cyflwyno darlith Kate Roberts a鈥檙 Ddrama - codi鈥檙 Llen. Mae Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors wedi bod yn gweithio ar brosiect ar y cyd 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 drwy鈥檙 cynllun KESS, gyda Diane dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod y t欧 a hanes un o awduron mwyaf blaenllaw Cymraeg yr ugeinfed ganrif yn dod yn fyw i ymwelwyr a phlant ysgol.
Dywedodd Diane, sy鈥檔 enedigol o Ddyffryn Nantlle: 鈥淩wy鈥檔 falch iawn o gael cymryd rhan yn yr Eisteddfod ar ran Cae鈥檙 Gors, ac o gael rhannu ychydig o ffrwyth fy ymchwil ar gysylltiad Kate 芒鈥檙 ddrama. O gofio am gysylltiad Kate 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 (roedd yn gyn fyfyriwr) a鈥檌 bod yn ymwelydd cyson 芒鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol mae fel petai rhyw draddodiad cael ei gynnal.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012