Cystadleuaeth Pwy 鈥檇i Pwy? Cyfle i ennill Ipod.
A ydych chi鈥檔 gallu adnabod lluniau rhai o鈥檙 artistiaid a fu鈥檔 perfformio yn Noson Pinaclau Pop 1968? Yna dewch draw i stondin Prifysgol 黑料不打烊 yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol am gyfle i ennill Ipod.
Mae鈥檙 gystadleuaeth yn seiliedig ar ddeunyddiau yr Archif Bop Cymru, sef casgliad unigryw o eitemau o fewn yr Ysgol Gerdd, Prifysgol 黑料不打烊, sydd yn ymwneud 芒 cherddoriaeth bop yn yr iaith Gymraeg o鈥檙 40au hyd at y presennol. Mae yn gyfle i chi ddangos eich gwybodaeth am gerddoriaeth pop Cymraeg yn y 60au trwy adnabod y lluniau ac artistiaid. Fe fydd yr ennillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod y Cwis Cerddorol am 1.00 pnawn Dydd Iau, Awst 9.
Cewch hefyd gyfle i ddysgu mwy am ddyfodol diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ers degawdau am 12.30 brynhawn Iau Awst 9 ar stondin Prifysgol 黑料不打烊.
Mewn cyflwyniad gan fyfyriwr PhD Steffan Wyn Thomas o Brifysgol 黑料不打烊 a Dafydd Roberts o gwmni Sain, o鈥檙 enw Gwerthiant Cerddoraieth yn yr Oes Ddigidol, cewch glywed canlyniadau ymchwil diweddar a thrafod datblygiadau posibl ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Mae Sain a Phrifysgol 黑料不打烊 yn cydweithio ar gynllun KESS, sef ymchwil doethuriaeth am dair blynedd, fydd yn edrych ar fodelau鈥檙 dyfodol ar gyfer cynyddu鈥檙 incwm masnachol o werthu a defnyddio cerddoriaeth.
Mae鈥檙 cyflwyniad yn rhan o ddiwrnod digwyddiadau CERDD IAU, sef gweithgareddau a drefnir gan Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol 黑料不打烊.
Yn ogystal 芒鈥檙 cyflwyniad mae 'na ddigon o hwyl i鈥檞 gael - a rhywbeth at ddant pob oedran.
Mae鈥檙 diwrnod yn dechrau efo gweithdy Cyfansoddi Caneuon am 11.00 ac eto am 2.30. Mae鈥檙 gweithdy鈥檔 cael ei gynnal gan Owain Llwyd a Peredur Glyn Davies.
Ar 么l perfformiad gan Glain Dafydd ar y Delyn am 12.00, ac yna eto am 2.00, bydd cyfle i ymlacio wrth fwynhau Cwis Cerdd hwyliog, fydd yn dechrau am 1.00 - dewch i weld pwy yw鈥檙 gwir wybodusion cerddorol.
I gloi鈥檙 diwrnod, dewch draw i babell Prifysgol 黑料不打烊 i fwynhau cerddoriaeth Ynyr Llwyd am 3.30.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012