Darlith gan Westai Nodedig - Dr Gillian Davies
Mae鈥檔 bleser o鈥檙 mwyaf gan Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊 gyhoeddi y traddodir darlith wadd gan Dr Gillian Davies, Bargyfreithiwr yn Siambrau Hogarth yn Llundain, ddydd Iau 24 Tachwedd 2011.
Bwriad darlith Dr Davies, sy鈥檔 dwyn y teitl 鈥淭he European Patent Office (EPO) in the Global Patent System 鈥 European Patent Convention (EPC) Law and Practice鈥, yw dangos sut mae Cytundeb Patentau Ewrop yn cyd-fynd 芒鈥檙 system patentau fyd-eang (Cytundeb Paris, Cytundeb Cydweithio Patentau etc.) yn ogystal 芒鈥檌 berthynas 芒 chyfreithiau cartref a phatent yr UE. Bydd yr anerchiad o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr sy鈥檔 astudio鈥檙 modiwl 鈥楥yfraith Eiddo Deallusol鈥 ar hyn o bryd neu鈥檔 bwriadu gwneud hynny.
Mae Dr Davies yn arbenigo mewn cyfraith eiddo deallusol ryngwladol, gyda phwyslais arbennig ar y cytundebau rhyngwladol sy鈥檔 ymwneud 芒 chyfraith patent a hawlfraint a hawliau cysylltiedig, o ganlyniad i flynyddoedd lawer o brofiad a enillwyd yn gweithio i Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd yn Genefa, Ffederasiwn Rhyngwladol y Diwydiant Ffonograffig yn Llundain, a Swyddfa Patentau Ewrop yn Munich. Mae hefyd yn arbenigo yn neddfwriaeth yr UE ar batentau, hawlfraint a hawliau cysylltiedig. Mae鈥檔 gyn Gadeirydd bwrdd ap锚l technegol ac aelod parhaol o鈥檙 Bwrdd Ap锚l Ehangach yn Swyddfa Patentau Ewrop, ac mae ganddi brofiad helaeth o gyfraith a threfn sylwedd o dan Gytundeb Patentau Ewrop.
Mae Dr Davies yn uwch gyd-olygydd y 14eg argraffiad (1999), y 15fed argraffiad (2005) a鈥檙 16eg argraffiad (2010) o gyfrol Copinger a Skone James ar Hawlfraint, ac mae hefyd yn gyd-awdur gyda Kevin Garnett , Q.C., ar lyfr newydd ar "Moral Rights", a gyhoeddwyd yn 2010. Mae hefyd yn awdur "Copyright and the Public Interest", y cyhoeddwyd yr ail argraffiad ohono gan Sweet a Maxwell yn 2002. Yn ddiweddar ymunodd 芒 th卯m golygyddol Clerk & Lindsell ar 鈥楾orts鈥, gan olygu pennod 26 ar Hawliau Eiddo Deallusol Statudol.
i weld proffil Dr Davies ar wefan Siambrau Hogarth.
Cynhelir y ddarlith am 3.00pm yn ystafell 1.01, Adeilad Alun, Ffordd y Coleg.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2011