Darlithydd 鈥榶sbrydoledig鈥 ym Mangor i gario鈥檙 Fflam Olympaidd
Mae darlithydd yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol 黑料不打烊 wedi cael ei dewis i gario鈥檙 Fflam Olympaidd ar 么l cael ei henwebu ar gyfer yr anrhydedd gan ei myfyrwyr.
Enwebwyd Sarah Nason, darlithydd yn y gyfraith, i鈥檙 categori 鈥榊sbrydoli Eraill trwy Addysg鈥 a bydd yn cario鈥檙 fflam pan fydd yn teithio drwy Gonwy 鈥 15 milltir o Fangor 鈥 ddydd Mawrth, 29 Mai 2012.Bydd darlithydd y Gyfraith Sarah Nason yn cario'r Fflam Olympaidd trwy Conwy ar 29 Mai
Ymunodd Sarah ag Ysgol y Gyfraith, 黑料不打烊 yn 2006, ar 么l gwasanaethu am gyfnod byr gyda鈥檙 Llynges Frenhinol ac yna ennill gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae鈥檔 fabolgampwraig frwdfrydig ac wedi ennill ei bri fel rhedwr marathon cyn troi at triathlon. Hi oedd yr ifancaf i gystadlu yn Uwch Driathlon Cymru 2008 ac yr adeg honno, dim ond yr ail ferch i gwblhau'r cwrs. Hefyd llwyddodd i gwblhau Triathlon Ironman y DU a hi oedd y person cyntaf erioed o Gymru i gystadlu ym Mhencampwriaethau Ultraman Canada, sy鈥檔 cael ei ystyried fel y triathlon anoddaf yn y byd.
Er gwaethaf ei gallu athletaidd, enwebwyd Sarah fel cydnabyddiaeth am ei gwaith dysgu, gyda myfyrwyr yn rhoi ei henw gerbron am fod yn 鈥渁cademydd ac athro ysbrydoledig鈥 ac yn 鈥渂atrwm ymddwyn eithriadol鈥.
鈥淢ae cael eich enwebu i gymryd rhan yn trosglwyddo鈥檙 Fflam Olympaidd yn anrhydedd mawr ynddo'i hun, ond mae'n golygu gymaint mwy yn dod oddi wrth y myfyrwyr", meddai Sarah. 鈥淩wy鈥檔 falch iawn fy mod wedi cael fy enwebu am fy nysgu yn hytrach nag am chwaraeon. Mae鈥檔 rhoi llawer iawn o foddhad bod y myfyrwyr yn elwa cymaint o'u profiad yn Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊 ag yr ydym ni fel staff. Rwyf wedi gweld yr Ysgol yn mynd o nerth i nerth yn ystod fy nghyfnod yma ac edrychaf ymlaen at weld beth sy鈥檔 dod nesaf. Yn y cyfamser, byddaf yn falch iawn o chwifio鈥檙 faner - neu鈥檙 fflam - i Brifysgol 黑料不打烊!鈥
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2012