Dathlu Diwrnod Mamiaith rhyngwladol ym Mhrifysgol 黑料不打烊
Rhai o'r myfyrwyr a fu'n cymryd rhan.Ar ddydd Mercher y 21ain o Chwefror, bu myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 yn dathlu 鈥楧iwrnod Mamiaith Rhyngwladol鈥.
Gyda myfyrwyr o bron 90 gwlad yn y Brifysgol, roedd y diwrnod yn dathlu鈥檙 amrywiaith ieithyddol ym Mangor, gyda myfyrwyr o draws y byd yn hyrwyddo a rhannu eu ieithoedd.
叠耻鈥檙 Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol (SCMR) yn gweithio gyda鈥檙 Ysgol Ieithoedd Modern a Diwylliannau, a鈥檙 Gymdeithas LangSoc i ddathlu鈥檙 diwrnod. Cafwyd digwyddiad 鈥榩op-up鈥 ar y campws, lle rhoddwyd dros 100 o negeseuon personol gan fyfyrwyr ar fap o鈥檙 byd yn eu mamiaith eu hunain. Yna, cynhaliwyd digwyddiad yn nhafarn y Belle Vue lle cafwyd 4 darlith gan myfyrwyr a staff am ieithoedd leifrifol a鈥檙 pwysigrwydd o鈥檜 gwarchod, ac yna cwis ieithoedd i ddilyn.
Creodd y diwrnod argraff fawr ar Marcel Clusa o鈥檙 SCMR a cafodd ei synnu gan yr amrywiaeth ac amrediad o ieithoedd ymysg myfyrwyr 黑料不打烊 鈥 鈥淒oeddwn i methu credu faint o negeseuon ysgrifennedig gafon ni erbyn diwedd y diwrnod. Cymaint o ieithoedd gwahanol! A phob un yn lledaenu neges bositif am undod a heddwch, ac yn profi sut gall ieithoedd ddod a pobl at eu gilydd. Roedd grwpiau o ffrindiau yn troi fyny, 鈥榬un ohonynt yn siarad yr un mamiaith, ond yn dangos yn glir sut gall cyfeillgarwch oresgyn unrhyw rwystr, unai diwylliannol, daearyddol neu wleidyddol. Mae hyn yn rhywbeth dylwn ni ei gofleidio a dysgu ohonno, yn enwedig yn yr hinsawdd gwleidyddol bresennol. Roedd o鈥檔 wych!鈥
Marcel Clusa
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2017