Dysgwyr Cymraeg yn cyrraedd y brig
Mae tair o ddysgwyr darpariaeth wedi ennill gwobr goffa Basil Davies mewn seremoni yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Llwyddodd Daniela Schlick, Rebecca Bateson a Karin Koehler i gael y marciau uchaf trwy Gymru gyfan yn eu arholiadau dysgu Cymraeg dros yr Haf.
Derbyniodd Daniela wobr ar gyfer ei llwyddiant yn yr arholiad Uwch, Rebecca Bateson yn yr arholiad Canolradd a Karin Koehler yn yr arholiad lefel Mynediad. Mae鈥檙 tair yn dysgu Cymraeg ym Mangor gyda Dysgu Cymraeg y Gogledd Orllewin.
Meddai Daniela; 鈥淪yrpreis cyffrous iawn oedd cael gwybod fy mod i wedi ennill Gwobr Goffa Basil Davies. Mae鈥檔 fraint mawr derbyn y wobr yn ei blwyddyn gyntaf, a hynny gan Betsan Moses, Prif Weithredwraig newydd yr Eisteddfod Genedlaethol mewn seremoni yn adeilad y Pierhead.鈥
鈥淗offwn ddiolch yn fawr i deulu Basil Davies, oedd hefyd yn y seremoni, am noddi鈥檙 wobr ac am eu cefnogaeth a鈥檜 gwerthfawrogiad. A llongyfarchiadau mawr i bawb aeth ati i sefyll yr arholiad. Rwyf yn falch iawn dros Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin a鈥檌 thiwtoriaid i gyd bod tair dysgwraig o Fangor wedi ennill y wobr eleni. "
Yn 2017 sefydlwyd cronfa goffa Basil Davies, a fu'n diwtor Cymraeg i Oedolion, i roi gwobr i'r ymgeiswyr a gafodd y marciau uchaf yn yr arholiadau gwahanol.
Eleni yw'r tro cyntaf i'r gwobrau hyn gael eu dyfarnu, gyda鈥檙 gwobrau鈥檔 cael eu trefnu ar y cyd rhwng CBAC a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cynhaliwyd y seremoni i wobrwyo鈥檙 ymgeiswyr buddugol ddydd Sadwrn 4 Awst 2018 yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd.
Dach chi鈥檔 nabod rhywun 芒 diddordeb dysgu Cymraeg? Mae gynnon ni gyrsiau ar gael ar bob lefel. Am wybodaeth bellach ac i gofrestru ewch i鈥檔 gwefan neu ffonio 01248 383928.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2018