Gwyddonydd blaenllaw i dderbyn Medal Frenhinol
Syr John ar achlysur dyfarnu Gradd er Anrhydedd Prifysgol 黑料不打烊 iddo.Mae cemegydd Prydeinig blaenllaw a gychwynnodd ar ei yrfa ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn un o dri sydd i dderbyn Medal Frenhinol eleni.
Mae Syr John Meurig Thomas Hon FREng FRS i鈥檞 anrhydeddu gyda Medal Frenhinol yn 2016 am ei waith arloesol mewn cemeg catalytig, ac yn arbennig ar waith catalydd heterogenaidd un-lleoliad, sydd wedi gwneud argraff fawr ar gemeg werdd, technoleg l芒n a chynaliadwyedd.
Roedd Syr John ymysg y cyntaf i dderbyn Gradd er Anrhydedd gan y Brifysgol ar achlysur dathlu 125ain pen-blwydd y sefydliad. Mae yn Athro er Anrhydedd mewn Cemeg Cyflwr Solet, Prifysgol Caergrawnt, ac yn gyn Feistr Coleg Peterhouse, Caergrawnt. Cychwynnodd Syr John Meurig Thomas ar ei yrfa academaidd yn dysgu ac ymchwilio yn Ysgol Gemeg y Brifysgol yn 25 oed yn y 50au hwyr.
Dyfarnir tair Medal Frenhinol, a elwir hefyd yn Fedal y Frenhines, yn flynyddol gan y Frenhines neu Frenin ar argymhelliad Cyngor y Gymdeithas Frenhinol. Ymysg y gwyddonwyr blaenllaw sydd wedi derbyn y Fedal Frenhinol yn y gorffennol mae Frederick Sanger FRS, Max Perutz FRS a Francis Crick FRS.
Dyfernir dwy Fedal pob blwyddyn am y cyfraniadau pwysicaf 鈥渁t ymestyn Gwybodaeth Naturiol鈥 yn y gwyddorau ffisegol a biolegol. Mae trydedd Medal yn gwobrwyo cyfraniad neilltuol mewn gwyddorau cymhwysol.
Sefydlwyd y Medalau Brenhinol gan y Brenin Si么r IV yn 1825. Rhwng 1826 a 1964 dyfernid dwy fedal yn flynyddol. Cyflwynwyd medal newydd dros y gwyddorau cymhwysol ar ran E M Y Frenhines yn 1965.
Croesawodd Dr Mike Beckett, Pennaeth yr Ysgol Gemeg y newyddion gan ddweud:
鈥淢ae gan yr Ysgol Gemeg yma hanes hir a nodedig. Anrhydeddwyd nifer o鈥檔 Hathrawon cyntaf yn Gymrodyr y Gymdeithas Frenhinol (FRS), ac mae staff a myfyrwyr wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gemeg dros y degawdau.
Rydym wrth ein boddau bod Syr John i dderbyn yr anrhydedd ac yn ymfalch茂o yn ei gysylltiad agos a pharhaus 芒鈥檙 Ysgol Gemeg a鈥檌 gefnogaeth iddi.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2016