Gwylio mwy o natur, gwylio llai o'r sgrin!
Natalie Chivers, Curadur Gardd Fotaneg Treborth yn cyfrannu'r 'addewid gwyrdd' gyntaf.A allech chi roi eich dyfeisiau o'r neilltu a mwynhau natur?
Dyma'r cwestiwn y gofynnodd Labordy Cynaliadwyedd a Gardd Fotaneg Prifysgol 黑料不打烊 i fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol yr wythnos diwethaf fel rhan o ddathliad cenedlaethol prifysgolion y DU o'r Wythnos Mynd yn Wyrdd.
Pan fyddwch yn camu allan i le gwyrdd neu'n rhoi cartref i blanhigyn, mae'n rhoi cymaint i chi - rhyddhad o straen, awyr iach, ysbrydoliaeth, cyfle i ymlacio, gwyrddni, harddwch, llawenydd. Er mwyn annog pobl i fynd yn wyrdd, plannwyd coed gydag addewidion i "wylio mwy o natur a gwylio llai o'r sgrin" ledled y brifysgol, yn cynnwys yng Ngerddi Botaneg y brifysgol, yn y pedair llyfrgell, yn y Ganolfan Myfyrwyr Rhyngwladol, Undeb y Myfyrwyr ac adeilad Pontio. Gofynnwyd i bobl oedd yn cerdded heibio ysgrifennu eu haddewid i wylio mwy o natur a gwylio llai o'r sgrin ar ddeilen neu afal, tynnu hunlun gyda'u haddewid, ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yna bod yn wyrdd am weddill yr wythnos!
Mae Wythnos Mynd yn Wyrdd 黑料不打烊 yn rhan o Garnifal Cynaliadwyedd Prifysgol 黑料不打烊 <http://planet.cymru/en/events/carnifal2018/>, fydd yn arddangos ystod ac amrywiaeth y digwyddiadau sy'n gysylltiedig 芒 chynaliadwyedd a gynhelir mewn mis arferol ym Mhrifysgol 黑料不打烊 - mis cyfan o ddigwyddiadau cyffredin!
I gael rhagor o wybodaeth am "wylio mwy o natur, gwylio llai o'r sgrin", yr Wythnos Mynd yn Wyrdd, y Carnifal Cynaliadwyedd ym Mangor neu i drefnu gweithgaredd Mynd yn Wyrdd yn 2019, cysylltwch 芒 Jo yn y Labordy Cynaliadwyedd [cyswllt].
Cewch ragor o wybodaeth am yr Wythnos Mynd yn Wyrdd a'r Carnifal Cynaliadwyedd ar a yn #GoGreenWeek a #Carnifal.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018