Manon Wyn Williams wedi ei henwebu fel y Dramodydd Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru
Nos Sadwrn, 27 Ionawr, cynhelir Seremoni Gwobrau Theatr Cymru 2018 yng Nghanolfan Glan yr Afon, Casnewydd. Mae Gwobrau Theatr Cymru yn 鈥榓dnabod rhagoriaeth yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru a r么l beirniadaeth gelfyddydol鈥. Eleni, enwebwyd Dr Manon Wyn Williams, Darlithydd Sgriptio a Drama y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol Gymraeg Prifysgol 黑料不打烊, yng nghategori鈥檙 Dramodydd Gorau yn yr Iaith Gymraeg am ei drama Hollti, a lwyfannwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n ym mis Awst cyn mynd ar daith ledled Cymru yn ystod yr hydref.
Meddai Manon:
鈥淢ae鈥檔 fraint cael fy enwebu yn y categori hwn yn enwedig o ystyried yr enwau adnabyddus eraill sydd hefyd wedi eu henwebu ar y rhestr fer. Drama gair am air - verbatim - yw Hollti, ac, felly, ni fyddai鈥檙 ddrama鈥檔 bodoli o gwbl oni bai am barodrwydd nifer o unigolion i roi eu hamser i gyfrannu at y ddrama. Cywaith yw Hollti mewn gwirionedd ac roedd hi鈥檔 bleser cael cofnodi geiriau鈥檙 unigolion hyn ar gof a chadw. Diolch iddynt am eu cefnogaeth a鈥檜 cydweithrediad a diolch i Theatr Genedlaethol Cymru am y cyfle i lunio鈥檙 sgript.鈥
Ac meddai鈥檙 Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg:
鈥淟longyfarchiadau calonnog iawn i Manon ar ei champ! Dyma鈥檙 trydydd tro鈥檔 olynol i aelod o Ysgol y Gymraeg gael ei enwebu am y wobr hon. Fe鈥檌 henillwyd y llynedd gan Yr Athro Angharad Price am ei drama Nansi a chan Ll欧r Titus, un o鈥檔 myfyrwyr PhD, gyda Drych cyn hynny. Pob lwc iddi hi a hefyd i Ffion Dafis, un o鈥檔 cyn-fyfyrwyr sydd wedi ei henwebu am ei rhan fel yr Arglwyddes Macbeth yn nrama Shakespeare a gyfieithwyd i鈥檙 Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas, un o鈥檙 dram芒u sy鈥檔 rhannu rhestr fer gyda Hollti Manon Williams.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018