Myfyriwr yn llunio syniad buddugol yng Nghystadleuaeth Syniad Busnes Byddwch Fentrus 2012 Prifysgol 黑料不打烊
Dale Spridgeon wrth ei holwyn crochenydd.Mae Dale Spridgeon, myfyriwr 么l-radd yn , wedi ennill gwobr o 拢200 ar 么l dod yn fuddugol yn y gystadleuaeth flynyddol Syniadau Busnes a drefnir gan y , rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Gofynnwyd i fyfyrwyr ddisgrifio syniad busnes gwreiddiol mewn dim ond 200 o eiriau ac egluro sut roedd eu syniad yn ymarferol, arloesol ac unigryw.
Bwriad y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i israddedigion ac 么l-raddedigion fynegi eu syniadau mentrus mewn ffordd gryno a chael eu cydnabod am eu creadigrwydd a鈥檜 hysbryd entrepreneuraidd.
Cafodd y syniadau eu beirniadu gan staff gyrfaoedd, cyflogadwyedd a phrojectau menter, a chan entrepreneuriaid lleol.
Disgrifiodd y myfyriwr buddugol wasanaeth crochenwaith a chrefftau y gellid ei ddefnyddio ar gyfer therapi amgen, datblygiad personol ac i adeiladu timau.
鈥淔el hobi dwi wrth fy modd yn gweithio efo clai a llunio potiau ar olwyn y crochenydd. Mae鈥檔 hwyl, yn therapiwtig ac yn ffordd wych o ymlacio ar 么l diwrnod prysur,鈥 meddai Dale.
鈥淒aeth syniad i mi y gallai amrywiaeth o bobl o wahanol gefndiroedd fanteisio o wneud crochenwaith a chrefftau, ond nad oes ganddynt y cyfleusterau, y sgiliau na鈥檙 ddarpariaeth briodol,鈥 ychwanegodd.
Meddai Cydlynydd y Project Byddwch Fentrus, Lowri Owen: 鈥淢ae aelodau sy鈥檔 dychwelyd i鈥檙 panel beirniadu yn cytuno bod y cynigion i鈥檙 Gystadleuaeth Syniadau Busnes wedi dal i wella flwyddyn ar 么l blwyddyn, ac nid oedd eleni鈥檔 eithriad.
鈥淢ae鈥檙 gystadleuaeth yma, ynghyd 芒 llawer o ddigwyddiadau menter eraill rydym wedi鈥檜 cynnal ym Mhrifysgol 黑料不打烊, wedi dangos y cyfoeth o greadigrwydd a dawn entrepreneuraidd sydd i鈥檞 chael ymysg ein myfyrwyr.鈥
Mae鈥檙 Gystadleuaeth Syniadau Busnes yn ddim ond un ymysg llawer o gystadlaethau, cyflwyniadau a digwyddiadau a ddarperir gan y Project Byddwch Fentrus i gefnogi myfyrwyr sydd eisiau bod yn fwy entrepreneuraidd neu sy鈥檔 meddwl dechrau busnes.
Am fwy o wybodaeth, ewch i鈥檙 wefan: .
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2012