Myfyrwyr bodlon yn rhoi Prifysgol 黑料不打烊 ar y rhestr fer ar gyfer chwe gwobr
Mae Prifysgol 黑料不打烊 ar y rhestr fer ar gyfer chwech o鈥檙 naw gwobr yng Ngwobrau mawreddog WhatUni Student Choice.
Mae hyn yn dilyn blwyddyn ryfeddol i Fangor, pryd y daeth y Brifysgol yn gyntaf yng Nghymru ac yn 7fed yn y DU am foddhad myfyrwyr, pryd y daeth yn un o鈥檙 100 Prifysgol orau yn y byd am ei hagwedd ryngwladol, ac y daeth yn un o鈥檙 20 uchaf yn y DU o ran profiad myfyrwyr.
Ar sail ymatebion gan fwy nag 20,000 o fyfyrwyr ar draws y DU, wrth iddynt nodi eu barn ar wefan Whatuni Student Rankings, mae myfyrwyr 黑料不打烊 wedi ymateb mor gadarnhaol i鈥檞 profiad yn y Brifysgol fel bod 黑料不打烊 wedi cael enwebiad am Wobrau yn y categor茂au canlynol:
- Prifysgol y Flwyddyn
- Llety
- Cyrsiau
- Clybiau a Chymdeithasau
- Cyfleusterau鈥檙 Brifysgol
- Cefnogi Myfyrwyr
Croesawodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol, y newyddion, gan ddweud:
鈥淢ae鈥檔 bleser gen i fod y Brifysgol wedi cael cymaint o enwebiadau am y Gwobrau hyn, ac yn ddiolchgar i鈥檙 holl fyfyrwyr am eu cymorth. Mae鈥檙 enwebiadau hyn yn adlewyrchu ein ffocws ar ddarparu addysg ragorol a phrofiad cyffredinol, myfyriwr-ganolog o fywyd prifysgol. Rwy鈥檔 falch fod ein myfyrwyr presennol yn gwerthfawrogi eu hamser ym Mangor, a bod cymaint yn dewis chwarae rhan mor weithgar ym mywyd y Brifysgol. Hoffwn ddiolch i鈥檙 holl staff am eu hymdrechion gwych.鈥
Ychwanegodd Simon Emmett, Rheolwr-Gyfarwyddwr Whatuni.com: 鈥淚 ddarpar-fyfyrwyr, mae cael gwybod yn uniongyrchol am ansawdd addysg a disgwyliadau realistig am fywyd mewn prifysgol yn adnodd amhrisiadwy wrth benderfynu yngl欧n 芒 dilyn astudiaethau ar lefel gradd. Ein gobaith ni yw bod y safleoedd y mae myfyrwyr yn gosod prifysgolion arnynt yn cyfrannu at yr ymchwil a鈥檙 paratoad sy鈥檔 ofynnol fel y gall pob myfyriwr ddewis y brifysgol sy鈥檔 iawn iddo ef/ iddi hi.鈥
Mae llwyddiannau diweddar eraill Prifysgol 黑料不打烊 yn cynnwys ennill canlyniadau gwych yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), a nododd fod mwy na thri chwarter ymchwil 黑料不打烊 naill ai鈥檔 鈥渂enigamp鈥 neu鈥檔 鈥渞hagorol yn rhyngwladol鈥.
Mae 黑料不打烊 hefyd yn y 10% uchaf o brifysgolion gwyrddaf y byd ac, yn ddiweddar, wedi ennill Safon Ryngwladol ISO14001 a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Cyhoeddir Whatuni Student Rankings ar 23 Ebrill mewn seremoni sydd i鈥檞 chynnal yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2015