Noson gyda Jackie Kay MBE - nofelydd a bardd o fri
Bydd Jackie Kay, un o awduron mwyaf amryddawn gwledydd Prydain, yn ymweld 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 ym mis Mawrth. Mae hi鈥檔 adnabyddus fel bardd, dramodydd, nofelydd, cofiannydd ac awdur stor茂au byrion, ac wedi cael canmoliaeth fawr am ei gwaith i oedolion ac i blant.
Bydd Jacke Kay yn darllen o ddetholiad o鈥檌 gweithiau, ac yn sgwrsio 芒 Dr Kachi A Ozumba, awdur a darlithydd ym Mhrifysgol 黑料不打烊, nos Lun 4 Mawrth 2013, am 5-7pm, ym Mhrif Ddarlithfa鈥檙 Celfyddydau o fewn Prif Adeilad y Celfyddydau. Mae鈥檙 digwyddiad hwn am ddim ac mae croeso i bawb.
Defnyddir ei gweithiau mewn amrywiaeth o gyrsiau llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol yn Ysgol y Saesneg, megis Llenyddiaeth Er 1945, Ysgrifennu Creadigol: Ffuglen a Llenyddiaeth Ffeithiol, Ysgrifennu Creadigol: Barddoniaeth, a Dangos a Dweud.
Wrth edrych ymlaen at y noson, dywedodd yr Athro Ian Gregson, Cyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Saesneg: 鈥淢ae Jackie Kay yn un o鈥檙 awduron cyfoes pwysicaf, ac yn sicr yn un o鈥檙 rhai mwyaf amryddawn ohonynt, ac rydym yn falch o鈥檌 chroesawu i Fangor. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at glywed ei chyfweliad 芒鈥檔 cydweithiwr Kachi Ozumba, ac at weld y modd y mae hi, wrth ddarllen, yn llywio ei ffordd rhwng y gwahanol genres y mae wedi鈥檜 defnyddio 鈥 cerddi, nofelau, stor茂au byrion.鈥
Yn ystod ei gyrfa, mae Jackie Kay wedi ennill llawer o wobrau. Mae ei gwobrau am farddoniaeth yn cynnwys Gwobr Eric Gregory, Gwobr Llyfr Cyntaf y Flwyddyn yn yr Alban gan Gymdeithas Saltire, Gwobr CLPE, a Gwobr Farddoniaeth Costa (rhestr fer); a鈥檌 gwobrau am ryddiaith yn cynnwys Gwobr Ffuglen y Guardian, Gwobr Ryngwladol Lenyddol Impac, Dulyn (rhestr fer), Awdur Decibel Gwobr Llyfrau Prydain, Gwobr Genedlaethol y BBC am Stori Fer (rhestr fer), Gwobr Llyfr Albanaidd y Flwyddyn, a Gwobr PEN/Ackerley. Yn 2006, enillodd hi MBE am wasanaeth i lenyddiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2013