Prifysgol 黑料不打烊 yn Cefnogi Pythefnos Masnach Deg 2016
Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn galw ar yr holl fyfyrwyr, staff a鈥檙 gymuned leol i ymuno yn y dathliadau ar gyfer Pythefnos Masnach Deg 2016, sy'n dechrau ar y 29ain Chwefror.
Thema鈥檙 dathliad eleni yw 鈥淪teddwch Am Frecwast 鈥 Sefwch am Ffermwyr鈥 ac i nodi鈥檙 achlysur, bydd aelodau o gr诺p Masnach Deg y Brifysgol yn mwynhau brecwast ym mwyty Gorad. Bydd y brecwast yn cynnwys nwyddau Masnach Deg fel te, coffi a bananas.
"Brecwast yw pryd pwysicaf y dydd, ond nid oes miliynau o ffermwyr sy'n gweithio mewn gwledydd datblygol yn ennill digon i wybod o ble mae eu pryd nesaf yn dod. Mae mannau gwerthu bwyd a diod y Brifysgol wedi eu hymrwymo'n llwyr i鈥檙 ymgyrch hon a phob blwyddyn rydym yn cynyddu nifer y nwyddau Masnach Deg a ddefnyddir." meddai Angela Church, Pennaeth Arlwyo a Chynadledda鈥檙 Brifysgol.
Mae'r Brifysgol, sydd wedi cael statws Masnach Deg ers 2009, unwaith eto wedi ymuno 芒 Gr诺p Masnach Deg Dinas 黑料不打烊 a Champws Byw i ddathlu鈥檙 pythefnos. Mae鈥檙 digwyddiadau eleni yn cynnwys Ffair Masnach Deg, cwis Dydd G诺yl Dewi, cystadleuaeth pobi, Carioci a Choctels Masnach Deg a digwyddiad caru eich dillad yng Nghanolfan Deiniol, 黑料不打烊. Trwy Gydol y pythefnos bydd brecwast Masnach Deg yn cael ei weini ym mwyty Gorad a gwerthir myffins siocled a banana Masnach Deg ar draws llefydd bwyta'r Brifysgol.
Aled Closs Davies, Rheolwr Bwyty Gorad; Mair Rowlands, Lab Cynaliadwyedd; Lydia Richardson, Is Lywydd UM, Addysg a Lles; Ffion Jones, Undeb Myfyrwyr; Mark Stanley, Is Lywydd UM Cymdeithasau a鈥檙 Gymuned; Fflur Elin, Llywydd Undeb dros fecwast Masnach Deg.Mae gr诺p Masnach Deg y Brifysgol yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Adran Gwasanaethau Masnachol, y Lab Cynaliadwyedd, Campws Byw ac Undeb y Myfyrwyr.
Yn siarad ar ran y gr诺p meddai Mair Rowlands, o'r Lab Cynaliadwyedd: "Rydym yn gobeithio y bydd myfyrwyr, staff ac aelodau o'r cyhoedd yn cefnogi ein gweithgareddau. Mae cam syml fel prynu nwyddau Masnach Deg, sydd ar gael ym mhob siop campws ac yn mannau bwyd y Brifysgol, yn galluogi ffermwyr mewn rhai o gymunedau tlotaf y byd i ennill incwm cynaliadwy a buddsoddi mewn prosiectau sydd o fudd i鈥檞 hardal."
Am fanylion llawn o holl ddigwyddiadau Masnach Deg y Brifysgol, ewch i鈥檙 wefan yma.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2016