Prifysgol 黑料不打烊 yn cyhoeddi Cyngerdd Bryn Terfel 鈥 Tocynnau nawr ar werth
Mae Bryn Terfel wedi cyhoeddi manylion cyngerdd arbennig gyda derbynnwyr ei ymddiriedolaeth ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ym mis Mai i ddathlu canmlwyddiant Neuadd Prichard-Jones. Daeth y cyhoeddiad ar y diwrnod pan dderbyniodd Bryn Terfel Doethuriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i Gerddoriaeth gan y Brifysgol.
Bydd y canwr opera rhyngwladol, sydd fwyaf adnabyddus am bortreadu Mozart, Verdi a Wagner, yn perfformio gydag unigolion talentog ei ymddiriedolaeth yn y lleoliad hanesyddol ar nos Sadwrn 19 Mai am 7.00pm. Mae鈥檙 digwyddiad a drefnir gan Brifysgol 黑料不打烊 wedi ei noddi gan Quilter, y rheolwr cyfoeth, ac Arts and Business Cymru.
Mae tocynnau i鈥檙 cyngerdd bellach ar gael ac mae modd archebu ar-lein neu neu wrth ffonio Swyddfa Docynnau Pontio 01248 382828.
Meddai Bryn Terfel, 鈥淢ae鈥檔 fraint imi gael derbyn y radd er anrhydedd o Brifysgol 黑料不打烊 ac rwy鈥檔 falch o gyhoeddi ein bwriad i ddychwelyd ym mis Mai gyda derbynwyr Ymddiriedolaeth Bryn Terfel i berfformio yn Neuadd arbennig Prichard-Jones. Bydd y gyngerdd yn cynnig llwyfan arbennig i鈥檙 artistiaid ifanc ddangos eu talent nhw o flaen cynulleidfa byw. Y bwriad gyda鈥檙 ymddiriedolaeth yw i wobrwyo unigolion yn ariannol am yr holl waith caled ac ymroddiad sydd ganddynt ar ddechrau eu gyrfaoedd.鈥
Ychwanega Dr David Roberts, Ysgrifennydd a Chofrestrydd Prifysgol 黑料不打烊, 鈥淩ydym yn falch iawn o ddathlu canmlwyddiant Neuadd Prichard-Jones, a go brin fod ffordd well o ddiweddu鈥檙 dathliadau na gydag un o enwogion mwyaf y byd opera yn perfformio gyda s锚r y dyfodol.
Cafodd Ymddiriedolaeth Bryn Terfel eu sefydlu yn 2009 ac mae鈥檔 gwobrwyo artistiaid ac unigolion ifanc gyda dawn arbennig a ffocws, egni a menter amlwg.
Mae Bryn hefyd yn lysgennad ar Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru, sydd werth 拢4,000 i鈥檙 enillydd. Prif nod yr ysgoloriaeth yw meithrin a datblygu talentau rhai o bobl ifanc mwyaf dawnus Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2012